Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ionawr 2017

Lansio rhaglen 2017 i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi lansio Rhaglen 2017 heddiw i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Rhaglen 2017 yw’r ddiweddaraf yng nghyfres Llywodraeth Cymru o daflenni Cymru’n Cofio 1914-1918 sy’n rhestru’r digwyddiadau a’r prosiectau o ddiddordeb i’r Cymry sy’n cael eu cynnal yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y flwyddyn.

Mae’r lansiad yn cyd-fynd â digwyddiad Diwrnod Partneriaeth 2017 y Rhyfel Byd Cyntaf a gynhelir yn Llanfair-ym-Muallt ar 26 Ionawr.

Prif ffocws y flwyddyn o gofio yw Trydedd Frwydr Ypres (Passchendaele) a fydd yn cael ei choffáu yn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol wrth y Gofeb Gymreig yn Langemark, Gwlad Belg ar 31 Gorffennaf.

Mae Trydedd Frwydr Ypres o arwyddocâd arbennig i Gymru am i lawer iawn o filwyr o Gymru golli eu bywydau yno, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn.  Lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 1917 a chafodd ei gladdu ym mynwent Artillery Wood ger Ypres.

Bydd croeso i bawb yn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol ond rhaid cofrestru ymlaen llaw ar y ddolen sy’n dilyn erbyn 26 Mawrth: http://www.smartsurvey.co.uk/s/fflandrys

Caniateir mynediad trwy docynnau wedi’u harchebu ymlaen llaw yn unig.

Ymhlith y digwyddiadau allweddol eraill a gynhelir fydd ailagor cartref Hedd Wyn yn sgil ei ailddatblygu am gost o £3.4 miliwn o dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda nawdd Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal nifer o ddigwyddiadau diwylliannol ar y cyd â Llywodraeth Fflandrys ar yr hanes cyffredin rhwng Cymru a Gwlad Belg.

Meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae Cymru’n Cofio 1914-1918 yn rhoi cyfle inni gofio’r rheini a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Rhaid inni beidio â gadael i aberth y Cymry, ynghyd â’r rheini o wledydd eraill Prydain a lluoedd y Cynghreiriaid, fynd yn angof.

"Mae Rhaglen 2017 yn ganlyniad i’r cydweithio a’r cyfranogi aruthrol a welwyd ledled Cymru ers 2014, a fydd yn parhau eleni ac i’r dyfodol."

 
 

Rhannu |