Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Ionawr 2017

Dewis mesur ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol

Dewiswyd cynnig ar gyfer deddf newydd i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru yn y balot cyntaf ar gyfer Biliau Aelodau’r Pumed Cynulliad.

Dewiswyd enw Dai Lloyd AC, Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru ar hap ac mae ganddo bellach 25 diwrnod gwaith i gyflwyno cynnig yn gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar p'un a ddylai'r Bil gael ei gyflwyno.

Cyflwynwyd cyfanswm o 29 o awgrymiadau ar gyfer y balot.

Caiff y balot ar gyfer Biliau Aelodau ei gynllunio er mwyn caniatáu i Aelodau Cynulliad nad ydynt yn weinidogion neu'n ysgrifenyddion cabinet gyflwyno cynigion ar gyfer deddfau newydd.

Yn y Pedwerydd Cynulliad, cafodd cyfreithiau a gynigiwyd drwy Filiau Aelodau ar lefelau staffio nyrsys a chartrefi symudol preswyl eu pasio.

Cynhelir y balot Biliau Aelodau yn ôl disgresiwn y Llywydd.

Unwaith y caiff enw Aelod ei ddewis, ni chaiff yr Aelod hwnnw gymryd rhan mewn balot yn y dyfodol tan ddiwedd y Pumed Cynulliad yn 2021.

Llun: Dai Lloyd AC

Rhannu |