Mwy o Newyddion
Cwrs newydd yn cyflwyno Cymru a’r Gymraeg i’r byd
Mae’r Brifysgol Agored wedi lansio cwrs ar-lein a fydd yn rhoi cipolwg i ddysgwyr ar hanes a diwylliant Cymru ac yn eu helpu nhw i ddysgu sgiliau Cymraeg sylfaenol.
Lansiwyd ‘Darganfod Cymru a’r Gymraeg’ yr wythnos hon yn y Senedd gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, a Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Mae posib astudio’r cwrs yn hyblyg a gall fyfyrwyr gofrestru ar unrhyw adeg.
Mae’n cynnig cyfle i archwilio agweddau allweddol o ddiwylliant Cymru ac i ddysgu sgiliau Cymraeg sylfaenol.
Dyluniwyd y cwrs yn benodol ar gyfer pobl sy’n byw y tu allan i Gymru neu bobl sydd wedi symud i Gymru i fyw.
Golyga cyrhaeddiad byd-eang y Brifysgol Agored bod posib astudio’r cwrs hwn unrhyw le yn y byd gyda chysylltiad rhyngrwyd.
I gyd-fynd â’r cwrs ffurfiol, mae’r Brifysgol Agored hefyd wedi datblygu porth ar-lein rhyngweithiol sy’n arddangos pobl a diwylliant amrywiol Cymru trwy gyfres o fideos a chwisiau.
Mae yna gyfweliadau byr gyda phobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru megis y dyfarnwr rygbi Nigel Owens, y gantores Kizzy Crawford a’r awdures Angharad Price.
Mae Hafan yn cynnig ffordd unigryw yn rhad ac am ddim i archwilio'r Gymru gyfoes, yn rhoi cipolwg ar ddiwylliant, iaith a daearyddiaeth gyfoethog Cymru ac yn dangos y Gymraeg fel rhan fodern a naturiol o’n diwylliant ni.
Yn siarad yn y digwyddiad lansio yn y Senedd, dywedodd Rob Humphreys: “Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn falch i hyrwyddo a gwella ein dealltwriaeth o Gymru.
"Mae Hafan yn cynnig ffordd hygyrch i bobl i ddysgu mwy am amrywiaeth Cymru a’i phobl ac mae’r cwrs Darganfod Cymru a’r Gymraeg yn berffaith i bobl sydd eisiau cyflwyniad i hanes, diwylliant ac iaith Cymru.
"Rydym yn gobeithio y bydd y cwrs a’r porth yn cyfrannu at gyflwyno Cymru i’r gynulleidfa ehangaf posib trwy astudiaeth hyblyg ar-lein.”
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC: "Mae cyrhaeddiad byd-eang Y Brifysgol Agored yn golygu bydd y cwrs Darganfod Cymru a'r Gymraeg yn rhoi llwyfan rhyngwladol i Gymru, ac yn enwedig i'r Gymraeg.
"Mae'n brosiect cyffrous fydd yn cyflwyno diwylliant ac iaith unigryw Cymru i fwy o bobl, sy'n gyfle i werthu Cymru ar y llwyfan rhyngwladol."
Gyda’r cwrs yn cael ei gyflwyno yn gyfan gwbl ar-lein mae wedi’i gynllunio i ategu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion helaeth sy’n bodoli ar draws Cymru.
Mae’r safle Hafan sydd ar gael yn rhad ac am ddim yn gwasanaethu fel adnodd dysgu y gellir ei ddefnyddio gan diwtoriaid a sefydliadau fel cymorth i gyflwyno eu darpariaeth, boed hynny yn y maes Cymraeg, hanes, gwleidyddiaeth neu faes arall.
Llun: Lywydd y Cynulliad, Elin Jones