Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2017

Dyfodol i'r Iaith yn galw am system sgorio i wasanaethu Cymraeg

Mae angen i gaffis, siopau, tafarnau a chanolfannau ddangos yn glir bod croeso i bobl siarad Cymraeg wrth drafod ar draws y cownter.

Byddai gwneud hyn yn rhoi hyder i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith, yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Mae’r mudiad am weld y Llywodraeth yn cyflwyno arwyddion atyniadol i’w gosod ar ffenestri busnesau lle mae croeso i ddefnyddio’r iaith.

Os yw’r Llywodraeth am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, rhaid annog mwy o bobl i’w defnyddio, a hynny mewn cymaint o wahanol sefyllfaoedd anffurfiol ag sydd bosib.

Dyna graidd gweledigaeth Dyfodol i’r Iaith, ac mae’r mudiad yn grediniol bod rôl allweddol i fusnesau a gwasanaethau preifat i wireddu hyn.

Dyma’r egwyddor sydd tu ôl i alwad y mudiad i gyflwyno system wirfoddol fyddai’n amlinellu gallu a pharodrwydd busnesau i gynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.

Byddai system o’r math yn seiliedig ar drefniadau sydd eisoes yn gyfarwydd i bawb; safonau glendid bwyd, er enghraifft, neu ganllawiau cwrw da CAMRA.

Mae Ceredigion eisoes wedi gyflwyno tystysgrifau i sefydliadau sy’n hyrwyddo’r iaith.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Mae caffis, siopau, tafarndai, a myrdd o wasanaethau sector preifat eraill yn cynnig cyfleoedd gwych i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.

"Byddai system o arwyddion o’r fath yn gyfle i fusnesau arddangos yn glir bod y Gymraeg yn rhan o’u hethos gofal cwsmer.

"Byddai hefyd yn gymhelliant i roi sylw dyledus i’r Gymraeg o fewn y gweithle, ac i werthfawrogi ac annog sgiliau ieithyddol staff.

Dros amser, a chyda cefndir o ymgyrch bellgyrhaeddol gan y Llywodraeth i godi ymwybyddiaeth o’r iaith, byddwn yn rhagweld y byddai system o’r fath yn cael ei hadnabod fel marc ansawdd a fyddai’n ddeniadol i’r busnesau eu hunain, yn ogystal â’u cwsmeriaid.”

Llun: Heini Gruffudd

Rhannu |