Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2017

Erthygl 50 - 'Mae’n hanfodol i Lywodraeth y DU negodi mewn ffordd sy’n adlewyrchu buddiannau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfan'

Bydd Aelodau Seneddol yn cael pleidlais cyn tanio Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.ar ôl i Llwodraeth y DU golli apêl yn y Goruchaf Lys.

Ond mae'r llys wedi gwrthod y bydd yn rhaid cael caniatâd Llywodraeth Cymru a chyrff datganoledig eraill cyn dechrau'r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys heddiw sy’n golygu y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU ofyn am gymeradwyaeth seneddol ar ffurf Bil cyn medru tanio Erthygl 50 i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

"Mae’n hanfodol i Lywodraeth y DU negodi mewn ffordd sy’n adlewyrchu buddiannau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyfan – mae Prif Weinidog y DU eisoes wedi ymrwymo’n gyhoeddus i wneud hyn.

"Mae’r dyfarniad yn cynnal ac yn cydnabod pwysigrwydd confensiwn Sewel, sef na fydd Senedd y DU fel rheol yn deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru a’r llywodraethau datganoledig eraill heb eu cydsyniad.

"Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill drwy’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion er mwyn dylanwadu ar safbwynt y Deyrnas Unedig yn gyffredinol.

"Ein nod yw cadw mynediad at y farchnad sengl i fusnesau a diogelu swyddi a buddsoddi yng Nghymru, ynghyd â hawliau gweithwyr.”

Rhannu |