Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2017

Plaid Cymru i geisio cyflwyno cynnig i roi llais i’r Cynulliad ar danio Erthygl 50

Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol, Steffan Lewis AC, wedi cadarnhau y bydd ei blaid yn ceisio cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau y gall ACau gael llais ar danio Erthygl 50.

Daw sylwadau Steffan Lewis AC wrth i’r Goruchaf Lys ddyfarnu’n unfrydol y byddai angen pleislais yn Senedd y DG i danio Erthygl 50, ond nad oes angen cydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig.

Ychwanegodd fod rhoi llais i’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch a allai Llywodraeth y DG gychwyn y broses o adael yr UE yn “fater syml o ddemocratiaeth" ac y dylai’r Prif Weinidog ddisgwyl "canlyniadau difrifol” petai llais Cymru’n cael ei anwybyddu.

Meddai Steffan Lewis: "Dylid croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys y bydd gan Senedd y DG lais ar danio Erthygl 50.

"Fodd bynnag, mae’n siomedig clywed na fydd ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig ar y mater tyngedfennol hwn.

"Oni fydd Aelodau Cynulliad, fel cynrychiolwyr pobl Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd, yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar danio Erthygl 50, bydd Plaid Cymru yn ceisio cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

"Mater syml o ddemocratiaeth yw i’r deddfwriaethau datganoledig gael rôl yng nghychwyn y broses o adael yr UE.

“Y cyfan wna dyfarniad y Goruchaf Lys nad yw Confensiwn Sewel yn rhoi bod i rwymedigaeth y gellir ei orfodi’n gyfreithiol yw amlygu nad yw’r Deyrnas Gyfunol yn deulu o genhedloedd cyfartal o bell ffordd.

"Allwn ni ddim caniatau i sefydliad San Steffan ddewis setliad Brexit sy’n rhoi blaenoriaeth i’w buddiannau hwy.

"Gwres yn fwy na goleuni gawsom ni gan araith y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf ar ei gweledigaeth am Brexit.

"Nid yw’n glir eto beth yn union y bwriada wneud i amddiffyn swyddi a masnach Cymru, nac i warchod hunaniaeth cyfansoddiadol ein Cynulliad Cenedlaethol.

"Ar Fehefin 23, gofynnwyd i bobl fynd i’r blwch pleidleisio wedi eu dallu – dim strategaeth, dim cynllun, dim papur gwyn wedi’i gyflwyno gan yr ymgyrch Adael.

"Bydd Plaid Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod gan Gymru lais wrth i’r trafodaethau i adael yr UE fynd rhagddynt.

"Fe all canlyniadau cyfansoddiadol difrifol godi os anwybyddir llais Cymru.”

Llun: Steffan Lewis AC

Rhannu |