Mwy o Newyddion
Luke Harding yn codi £12,000 i Ysbyty Llwynhelyg mewn 3 mis
Yn ddiweddar cafodd Luke Harding, 29, o Hwlffordd, ddiganosis o gancr ar yr ysgyfaint a metastasis ar yr ymennydd.
Mae Luke erbyn hyn wedi cael llawdriniaeth ar y metastasis ac wedi cael sawl sesiwn o radiotherapi a chemotherapi.
Penderfynodd Luke ei fod am wneud rhywbeth positif a dechreuodd godi arian i ward 10, Ysbyty Llwynhelyg.
Roedd ffrind i Luke wedi rhedeg marathan Auckland yn ddiweddar ac roedd yn ysbrydoliaeth i Luke.
Fe gafodd fandiau wedi ei printio gyda'r slogan #teamharding #togetherstronger.
Fe anfonodd gweddill y bandiau at Luke a dechreuodd eu gwerthu drwy dudalen crowdfunding a drwy ofyn am gyfraniadau i ward 10.
O fewn rhai dyddiau fe werthwyd y cyfan ac fe gynhyrchwyd 1,000 ychwanegol. Gwerthwyd rhain i gyd hefyd o fewn rhai misoedd.
Meddai Luke: "Fe werthwyd y bandiau i gyd mewn rhai misoedd. Roedd yn wallgof - roedd pobl yn talu arian dwl am ddarn o rwber!
"Mae'n dangos yr angerdd sydd gan bobl tuag at ei iechyd lleol a dyna pam oeddwn i am godi arian i ward 10.
"Maen nhw wedi bod yn anhygoel ers i mi gael y diagnosis cyntaf ac mae'r staff wedi bod yno i fi a fy nheulu ddydd a nos.
"Dwi'n gobeithio y gallaf helpu rhywun arall sy'n ymladd cancr.
"Pan wnes i ddechrau codi arian, roeddwn yn gobeithio codi £1,000 ond allai ddim a credu fy mod wedi codi £12,000. Dwi wir yn gwerthfawrogi bob cyfraniad."
Meddai Kirsten Whatling, Arbenigwraig Cancr yr Ysgyfaint: "Mae Luke wir yn ysbrydoliaeth ac yn ddyn ifanc arbennig iawn.
"Rydym yn hynod ddiolchgar iddo am godi swm anhygoel tuag at ward 10, Ysbyty Llwynhelyg.
"Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer creu ardal gyffyrddus arbennig ar y ward lle galll teulu a ffrindiau ymlacio mewn awyrgylch gartrefol.
"Nid yn unig mae Luke wedi llwyddo i godi'r arian yma, mae hefyd wedi codi ymwybyddiaeth o gancr yr ysgyfaint, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo am ei angerdd."
Hoffai Luke hefyd ddiolch i'w gyflogwr sef Cwmni Concrît Gamallt yn Aberteifi.
Fe gollodd Luke ei drwydded oherwydd ei salwch ac nid oedd modd iddo yrru lorri'r cwmni.
Fe drefnodd Llew Rees, perchennog Gamallt swydd arall yn y swyddfa i Luke.
Fe ymunodd y cwmni hefyd yn yr ymgyrch #teamharding gan drefnu fod graffeg y bandiau yn cael ei brintio ar un o'r loriau ac fe gyfranodd y cwmni dros £1,000 tuag at yr apêl.
Llun: Luke Harding a Kirsten Whatling