Mwy o Newyddion
Miloedd o bunnoedd wedi ei godi gan Rhodd Eryri
Ers lansiad Rhodd Eryri ym mis Gorffennaf 2016 mae nifer o fusnesau twristiaeth fwyaf blaenllaw Eryri wedi llwyddo i godi miloedd o bunnoedd i gefnogi prosiectau pwysig yn y Parc Cenedlaethol.
Mae Rhodd Eryri yn gynllun peilot sy'n rhoi'r dewis i ymwelwyr roi rhodd wirfoddol i brosiectau lleol.
Gwneir hyn drwy ychwanegu swm bach at gost eitemau fel llety, pryd o fwyd neu weithgaredd.
Yn nodweddiadol, nid yw hwn fwy na £1 fesul taliad, ac yn aml mae’n llai.
Ar hyn o bryd croesewir yr Wyddfa rhyw 600,000 o ymwelwyr pob blwyddyn, ffigwr sydd wedi dyblu er 2007.
Mae hyn yn cynnwys mwy na’r nifer o ymwelwyr â Ben Nevis, Scafell Pike, Mont Blanc a Everest wedi’u cyfuno!
Mae'n amlwg bod hyn yn cael effaith ar yr amgylchedd ac mae Rhodd Eryri yn rhoi cyfle i ymwelwyr roi ychydig yn ôl yn gyfnewid am eu mwynhad.
Dros y misoedd diwethaf mae bron i £3,500 wedi ei godi drwy’r cynllun.
Bydd yr arian yma yn mynd i gyllido cwrs achrededig, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Eryri, bydd yn dysgu sgiliau cadwraeth draddodiadol ar y mynydd i bobl ifanc.
Dywedodd John Harold o Gymdeithas Eryri, “Bydd yr arian yma yn galluogi 48 o bobl ifanc i gwblhau’r cwrs.
"Mae dysgu sgiliau traddodiadol, fel adeiladu waliau cerrig sych, yn hanfodol ar gyfer diogelu hanes a threftadaeth yr ardal i’r dyfodol.
"Yn ogystal, mae’n gyfle gwych i’r bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i weithio yn y byd cadwraeth.”
Erbyn heddiw mae 28 o fusnesau wedi ymuno gyda’r cynllun.
Dywedodd Kate Worthington o Raw Adventures “Rydym yn rhan o'r cynllun hwn i helpu cefnogi parch, mwynhad, datblygiad a chadwraeth yr ardal arbennig hon … nid yw’r un o’r rhain yn bodoli ar wahân.”
Sefydlwyd y cynllun gan Arloesi Gwynedd Wledig sydd eisiau arbrofi â dulliau newydd o ymdrin â’r heriau sy’n wynebu ardaloedd gwledig.
Pwrpas y peilot yma yw profi os oes awydd ymysg ymwelwyr a busnesau i dreialu gwahanol ddulliau o godi arian tuag at y prosiectau lleol.
Esboniodd Rhian Hughes o Arloesi: “Bu cynllun tebyg yn rhedeg yn Ardal y Llynnoedd er 20 mlynedd ac mae’n codi dros £100,000 bob blwyddyn ar gyfer ystod o brosiectau.
"Ein gobaith yw bydd Rhodd Eryri yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf i fod yr un mor llwyddiannus.
"Os byddai gennym 50 o fusnesau yn rhan o’r cynllun, rhagdybiwn byddai modd codi £22,000 y flwyddyn!”
Gellir cael mwy o wybodaeth a ffilmiau byr am y prosiect ar http://www.rhodderyri.cymru
Cyllidwyd y prosiect arian drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.