Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ionawr 2017

Holi barn ynghylch dyluniad gorsaf bŵer Wylfa Newydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori ar eu hasesiad o ddyluniad gorsaf bŵer niwclear newydd gan Hitachi-GE.

Mae'r asesiad yma ar gyfer dyluniad generig a allai gael ei adeiladu yn y DU.

Mae'r ymgynghoriad yn edrych ar gynllun Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU (ABWR DU) Hitachi- GE.

Mae Horizon Nuclear Power yn bwriadu adeiladu a gweithredu y cynllun hwn yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn ac yn Oldbury yn Ne Swydd Gaerloyw.

Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear i asesu derbynioldeb dyluniadau newydd o orsafoedd pŵer niwclear mewn proses o’r enw Asesiad Dyluniad Generig (GDA).

Gall bobl ddysgu mwy am yr asesiad a sut i roi eu barn mewn tair sesiwn galw heibio:

  • Dydd Llun 30 Ionawr, Neuadd David Hughes, Cemaes, Mon 1yp -7yh
  • Dydd Mawrth 31 Ionawr,  Canolfan Ebenser, Llangefni, Mon 1yp-7yh
  •  Dydd Mercher 8 Chwefror,  Turnberrie’s, Thornbury, De Swydd Gaerloyw  2yp-8.30yh

Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol CNC yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru: “Ein bwriad yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, yn cael eu hybu a’u defnyddio.

"Yn Wylfa Newydd byddwn yn gwneud hyn mewn tair ffordd: asesu dyluniad yr adweithyddion, penderfynu ar drwyddedau amgylcheddol penodol ar gyfer y safle a darparu cyngor i fudiadau eraill ynglŷn â’r penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud.

"Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwneud yr un gwaith ar gyfer Oldbury.

“Ein gwaith ni yw sicrhau bod unrhyw orsaf bŵer niwclear newydd yn cyrraedd safonau uchel o safbwynt amddiffyn yr amgylchedd a rheoli gwastraff, gan sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel rhag niwed i’r amgylchedd.”

Mae'r ymgynghoriad yn agored tan 3 Mawrth.

Rhannu |