Mwy o Newyddion
Gwarchod glaswelltiroedd arbennig
Mae gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i warchod glaswelltiroedd gwerthfawr wedi cymryd cam ymlaen yr wythnos hon.
Erbyn hyn, caiff glaswelltiroedd yn Ninas Brân, Llangollen eu gwarchod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae nodweddion daearegol Dinas Brân yn hysbys ac maent wedi cael eu gwarchod er 1957.
Yn awr, mae glaswelltiroedd a phlanhigion yr ardal wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol hefyd.
Meddai Richard May, Swyddog Cadwraeth CNC: “Mae Dinas Brân yn eithriadol o boblogaidd ymhlith cerddwyr, gan ddenu miloedd o bobl bob blwyddyn i ymweld â’r fryngaer Oer Haearn a’r castell canoloesol sydd wedi’u lleoli mewn tirwedd drawiadol.
“Mae’r glaswelltiroedd a welir yma yn brin ar dir isel Prydain, ac yn Ninas Brân ceir yr ardal fwyaf ond un yng Nghymru o un math o laswelltir asidig.
“Mae’r planhigion prin sydd i’w cael yma’n cynnwys clust-y-llygoden seth, berwr y bugail a’r gorfanhadlen fawr, ac mae rhywogaethau pwysig o adar a glöynnod byw hefyd yn dibynnu ar y glaswelltir a chynefinodd eraill.
“Trwy weithio mewn partneriaeth gyda thirfeddianwyr, edrychwn ymlaen at edrych ar ôl nodweddion arbennig y safle fel y gallwn ni a chenedlaethau’r dyfodol barhau i fwynhau treftadaeth naturiol a hanesyddol gyfoethog Dinas Brân.”