Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ionawr 2017

£36m ychwanegol tuag at leihau niferoedd mewn dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen - cam bach yn y cyfeiriad iawn yn ôl undeb athrawon

Mae undeb athrawon wedi croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Addysg a’r cyhoeddiad y bydd £36m yn cael ei glustnodi tuag at leihau niferoedd mewn dosbarthiadau yn y Cyfnod Sylfaen.

“Tra’n croesawu’r datganiad mae’n bwysig ei roi yn ei gyd-destun, swm o arian dros 5 mlynedd sydd gennym yma, ac mewn gwirionedd dydi’r swm ddim yn enfawr wrth ystyried hynny, wrth reswm mae’n gam bach yn y cyfeiriad iawn,” meddai Ywain Myfyr, swyddog polisi efo UCAC.

“Y gobaith yw y bydd yr arian yma’n mynd gam bychan tuag at leihau maint dosbarthiadau a thrwy hynny helpu i leihau’r llwyth gwaith anferthol sydd ar ein aelodau ac i godi cyrhaeddiad, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig,” ychwanegodd.

“Roedd dyfodiad y Cyfnod Sylfaen i Gymru yn rhywbeth chwyldroadol ar y pryd, ond ni chafodd ei ariannu’n ddigonol o’r cychwyn.

"Mae angen sicrhau nad oes unrhyw un disgybl yng Nghymru mewn dosbarth o maint anghyfreithlon ac mae’n bwysig iawn rhannu’r arian yn ofalus er mwyn sicrhau tegwch.

“Byddai’n braf nawr gweld Llywodraeth Cymru yn mynd y cam ychwanegol i wneud dosbarthiadau tan 25 yn statudol i bob oedran ac yn cynllunio i leihau maint dosbarthiadau yn gyffredinol er lles disgyblion a gweithlu addysg Cymru.

"Credwn y byddai hyn yn cyd-fynd efo egwyddorion datganiad heddiw.”

Cyhoeddwyd y gronfa newydd, gwerth £36m, i leihau maint dosbarthiadau babanod ac i godi safonau gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw.

Nod y gronfa yw targedu’r rheng flaen: gan ddechrau gyda’r dosbarthiadau mwyaf, bydd yn targedu dosbarthiadau lle mae angen gwella addysgu a dysgu, a lle ceir lefelau uchel o ddifreintiedigaeth.

Caiff yr arian, sy’n gyfuniad o gyllid cyfalaf a chyllid refeniw, ei fuddsoddi dros y pedair blynedd nesaf tan 2021.

Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos bod 7.6% (8,196) o ddisgyblion sy’n fabanod mewn dosbarthiadau o fwy na 30 disgybl.

Dywedodd Kirsty Williams: “Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau a chreu cyfleoedd i’n holl bobl ifanc.

“Dro ar ôl tro mae rhieni ac athrawon yn dweud wrthyf eu bod yn poeni am faint dosbarthiadau.

"Rydym wedi gwrando ar eu pryderon, wedi edrych ar y dystiolaeth ryngwladol, ac rydym heddiw’n cyhoeddi’r gronfa nwydd hon, gwerth £36m, i fynd i’r afael â maint dosbarthiadau babanod.

“Mae yna gysylltiad cadarnhaol rhwng dosbarthiadau llai o faint a chyrhaeddiad plant.

"Mae hyn yn arbennig o wir o ran plant o gefndiroedd tlotach.

"Mae hyn yn cael mwy fyth o effaith ar blant iau, a dyna pham rydyn ni’n targedu’r buddsoddiad hwn at ddosbarthiadau babanod.

“Bydd y cyhoeddiad hwn, ynghyd â’n diwygiadau eraill, yn galluogi athrawon i addysgu a disgyblion i ddysgu.”

Llun: Kirsty Williams

 

Rhannu |