Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ionawr 2017

Gosod cynllun Cymru yn dilyn y refferendwm Brecsit

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones ac Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood heddiw wedi cyhoeddi cynllun cynhwysfawr ac ymarferol ar gyfer Cymru wrth i’r DU baratoi i negodi ynghylch ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Papur Gwyn yn fwy na rhestr siopa o alwadau gan Gymru, mae’n fan cychwyn ymarferol ar gyfer negodi er lles pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Datblygwyd y papur ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac mae’n cydbwyso’r pryderon ynghylch mudo gyda’r gwirionedd economaidd sy’n gwneud cymryd rhan yn y Farchnad Sengl mor bwysig ar gyfer ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Mae’r papur yn gosod chwe phrif faes:

  • Pwysigrwydd parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl er mwyn cefnogi busnesau, a sicrhau swyddi a ffyniant Cymru ar gyfer y dyfodol
  • Dull cytbwys o fynd i’r afael â mudo, drwy gysylltu hawl i fudo â swyddi ac arferion cyflogaeth da, cadarn sy’n amddiffyn gweithwyr o ba bynnag wlad y maen nhw’n dod
  • ran cyllid a buddsoddi, yr angen i Lywodraeth y DU wireddu'r hyn a addawyd yn ystod ymgyrch y refferendwm sef na fyddai Cymru yn colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i benderfyniad y DU i ymadael â'r UE
  • Perthynas gyfansoddiadol sylfaenol wahanol rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU - wedi'i seilio ar barch o'r ddwy ochr a chytuno drwy gydsynio
  • Cynnal mesurau diogelu a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol yr ydym yn ymfalchïo ynddynt yng Nghymru, yn arbennig hawliau gweithwyr, pan na fydd y rheiny yn cael eu gwarantu bellach drwy aelodaeth y DU o'r UE
  • Ystyriaeth briodol o drefniadau pontio er mwyn sicrhau nad yw'r DU yn syrthio dros ymyl y dibyn o ran ei pherthynas economaidd a'i pherthynas ehangach gydag Ewrop os na fydd cytundeb ynghylch trefniadau tymor hirach ar unwaith pan fydd yn ymadael.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae'r Papur Gwyn yn darparu cynllun cynhwysfawr ac ymarferol ar gyfer y negodiadau gyda'n partneriaid yn Ewrop ynghylch ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, ar sail tystiolaeth gadarn.

"Mae’n canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru ond wedi'i lunio i weithio ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyfan.

"Ac mae wedi’i seilio ar ddeialog a chytundeb rhyngom ni a Phlaid Cymru, felly bydd yn ennyn cryn dipyn o gefnogaeth yn y Cynulliad.

Mae'n cydbwyso'r neges a gawsom gan bobl Cymru y dylid ymadael â'r Undeb Ewropeaidd gyda'r gwirionedd economaidd sy'n gwneud cymryd rhan yn y Farchnad Sengl mor bwysig ar gyfer ffyniant Cymru, ac yn wir y Deyrnas Unedig yn gyfan, yn y dyfodol.

"Mae'r penderfyniad y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd wedi'i wneud.

"Yr her sy'n ein hwynebu ni i gyd nawr yw sicrhau ein bod yn llwyddo i gael y fargen orau bosibl i Gymru a'r Deyrnas Unedig.

"Gyda’i gilydd, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru’n barod amdani.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Wrth gymryd rhan yn y broses hon, mae Plaid Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i economi Cymru.

"Rydyn ni wedi gwneud hyn gan fod dwy ran o dair o’n holl allforion yn mynd i Farchnad Sengl Ewrop.

"Mae’r ffordd y byddwn yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn fater rhy bwysig i’w adael i un blaid.

"Bydd y telerau wrth ymadael, beth bynnag fydd y rheiny, yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol, hirdymor.

"Mae Plaid Cymru wedi gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i ysgrifennu’r Papur Gwyn, ac wrth wneud hynny rydyn ni wedi cryfhau safbwynt negodi Cymru.

"Nawr rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd yr argymhellion hyn o ddifri."

Rhannu |