Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2017

Angen datganoli darlledu er mwyn sicrhau ail orsaf radio Cymraeg, medd ymgyrchydd

Bydd sefydlu ail orsaf radio Cymraeg cenedlaethol yn fwy tebygol wedi i ddarlledu cael ei ddatganoli, yn ôl mudiad iaith a fydd yn cyhoeddi papur polisi yn gwneud yr achos dros ddatganoli darlledu ym Mangor ddydd Sadwrn.

Yn y papur sy’n cyflwyno dadleuon dros ddatganoli darlledu, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn amlinellu’r achos dros ehangu darlledu Cymraeg gan sefydlu rhagor o orsafoedd radio Cymraeg a sianeli teledu, ynghyd â gwasanaeth newyddion Cymraeg newydd sy’n aml-lwyfan.

Diddymodd y BBC ei ail orsaf radio Gymraeg dros dro ddechrau’r flwyddyn. Dywed y mudiad y bydd mwy o fanylion am eu papur polisi am ddatganoli darlledu yn cael eu cyhoeddi yfory (2pm, dydd Sadwrn 21ain Ionawr, Pontio, Bangor).

Yn siarad cyn y lansiad, meddai Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Os ydyn ni’n cymharu darlledu yng Nghymru gyda Gwlad y Basg a Chatalwnia, mae’n glir nad yw’r cyfryngau Cymraeg wedi datblygu fel y dylen nhw.

"Mae’r ffaith bod darlledu heb gael ei ddatganoli i’n gwlad ni yn un rheswm pwysig pam nad oes dim ail orsaf radio gyda ni, er enghraifft.

"Datganoli darlledu a chreu strwythur newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru yw’r ffordd i newid hynny.

“Mae adolygiad o S4C yn cael ei gynnal eleni ac mae’n deg dweud bod hyn yn cynrychioli cyfle prin iawn i edrych yn fanwl ar fanylion y diwydiant darlledu yng Nghymru.

"Yn ogystal, mae Gweinidog Swyddfa Cymru wedi datgan bod hyn yn gyfle i ystyried datganoli darlledu, gan ddweud bod trafodaeth o’r fath yn ‘anochel’ wrth gynnal yr adolygiad.

“Mae’r ddadl dros ddatganoli darlledu yn un gref iawn - mae arbenigwyr yn y maes yn cyfaddef hynny.

"Mae’r maes wedi ei ddatganoli mewn gwledydd bychain eraill, ac maent wedi defnyddio eu pwerau er lles ieithoedd lleiafrifoledig.

"Mae gennym gyfle drwy’r adolygiad yma felly i ddechrau cyfnod newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru drwy ddatganoli’r maes i Gymru.

"Dyna pam rydyn ni’n lansio’r papur yfory ym Mangor - er mwyn sbarduno’r drafodaeth bellgyrhaeddol sydd ei hangen er mwyn normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan."

Rhannu |