Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Ionawr 2017

Ymchwilio i dorri 200 o goed yn anghyfreithlon

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i achos difrifol o dorri coed yn anghyfreithlon yn ardal Coed-duon.

Mae gweddillion tua 200 o goed gwrych ffawydd hynafol wedi’u darganfod yn ddiweddar.

Byddai wedi bod angen trwydded gan CNC i dorri cynifer o goed â hyn, ond yn dilyn ymchwiliad, darganfuwyd na roddwyd unrhyw drwydded.

Dywedodd Jim Hepburn, Swyddog Rheoli Coetir yn CNC: “Mae hwn yn achos difrifol a fydd yn cael effaith ofnadwy ar yr amgylchedd lleol a bydd pobl leol yn anhapus yn ei gylch.

“Roedd y coed hyn tua 150 – 200 mlwydd oed ac roeddent wedi bod yn darparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt.

“Rydym yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad, a byddwn yn gweithredu yn erbyn y rhai a fu’n gyfrifol.”

Rhannu |