Mwy o Newyddion
Cadw Cymru'n rhydd o beilonau
Mewn pleidlais yn y Senedd, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw ar y Grid Cenedlaethol i ffafrio ceblau dan ddaear mewn datblygiadau i drosglwyddo trydan yng Nghymru yn hytrach na pheilonau.
Er hyn mae’r Grid Cenedlaethol gyda chynlluniau eisoes ar waith i osod peilonau ar ddarn bychan 1km o hyd ar y tir mawr yn Arfon. Mae Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS yn ymgyrchu yn erbyn y cynigion.
Meddai Siân Gwenllian: “Rydw i wedi bod yn dadlau o blaid opsiynau amgen i beilonau yn sgil yr effaith weledol hollol negyddol y byddai hynny yn ei gael ar ardal o harddwch naturiol.
“Mae Parc Cenedlaethol Eryri sydd gerllaw yn ased hanfodol ar gyfer lles economaidd a diwylliannol yr ardal yn bresennol ac i’r dyfodol.
“Gallai unrhyw ddatblygiad a all effeithio yn negyddol ar fwynhad pobl o olygfeydd y Parc gael effaith andwyol ar yr economi leol yn Arfon. Byddai'r peilonau yn Arfon i'w gweld yn glir o'r Parc.”
Rhoddodd yr Aelod Cynulliad ynghyd â’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, dystiolaeth ar gyfer ymgynghoriad statudol cyntaf y Grid Cenedlaethol ar Gysylltiad Gogledd Cymru.
Bu iddynt alw am dwnnel o dan y Fenai yn hytrach na pheilonau oherwydd yr effaith weledol negyddol y byddai hyn yn cael ar yr ardal.
Ychwanegodd Siân Gwenllian: “Rwy’n falch bod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus gyda thwnnel o dan y Fenai yn rhan o’r cynllun erbyn hyn.
“Ni ddylid dibynnu ar ewyllys da’r Grid cenedlaethol.
“Dylai bod pwerau dros y grid yn ogystal â phwerau llawn dros brosiectau ynni dan y drefn gynllunio fod yn nwylo pobl Cymru.”
Llun: Siân Gwenllian a Hywel Williams