Mwy o Newyddion
Galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn ffermwyr Cymru yn dilyn cyhoeddiad ar y farchnad sengl
Mae Ysgrifennydd y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas wedi galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn ffermwyr Cymru yn dilyn cyhoeddiad Y Prif Weinidog Theresa May ein bod ni am adael y farchnad sengl.
Cymerodd Simon Thomas, yr AC rhanbarthol dros y Canolbarth a’r Gorllewin, y cyfle i gwestiynu’r Prif Weinidog Carwyn Jones am ddyfodol y sector amaeth yn Sir Benfro, yn ystod y cyfarfod llawn yn y Senedd ar ddydd Mawrth.
Y bore hynny, amlinellodd Theresa May ei chynlluniau dadleuol am ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd yr AC o Blaid Cymru: “Yn dilyn cyhoeddiad Theresa May ein bod ni am adael y farchnad sengl, mae’n amlwg bod Llywodraeth San Steffan yn paratoi am setliad ôl-Brexit poenus a chaled i Gymru.
“Felly, mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau glas i liniaru’r pwysau economaidd sy’n siŵr o effeithio ar sector amaethyddol Cymru.
“Gofynnais i’r Prif Weinidog am ei gynlluniau i amddiffyn ffermwyr yn Sir Benfro, ac ar draws Cymru, yn dilyn penderfyniad Theresa May, ein bod ni am adael y farchnad sengl.
“Golygir y penderfyniad hwn bod tariffau yn debygol o effeithio ar gynnyrch Cymreig o dan reolau’r ‘World Trade Organization. Mi fydd yna farchnad masnach rydd gyda Seland Newydd, lle all cig oen dod i mewn yn rhatach a thanbrisio cig oen da, Cymreig.”
“Unwaith eto, mae Llywodraeth Lundeinig y Ceidwadwyr yn gwneud penderfyniad cydwybodol i wneud ffermwyr Cymreig yn dlotach gyda hwythau methu â chystadlu yn fyd-eang.
“Byddaf yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw ffermwyr Cymreig ar golled o ganlyniad i ‘brexit caled’ boenus ac anghyfiawn.”