Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ionawr 2017

Dechrau trafodaeth am fuddsoddiad sylweddol i addysg gynradd ym Mangor

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymerdwyo cychwyn trafodaeth ar fuddsoddiad sylweddol yn addysg gynradd yn ninas Bangor.

Mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i fuddsoddi yn narpariaeth addysg o fewn dalgylch Bangor.

Mae’r Llywodraeth wedi cytuno mewn egwyddor i gyfrannu £6,365,000 o’i Raglen Ysgolion 21ain Ganrif i alluogi’r Cyngor i adolygu a gwella’r sefyllfa bresennol ym Mangor fel rhan o becyn ariannol ehangach gwerth £12,730,000 a fyddai’n cynnwys cyfraniad gan y Cyngor.

Mae ymrwymiad hefyd gan gwmni datblygu tai Redrow, fel rhan o gytundeb ar gyfer datblygiad newydd Goetre Uchaf ym Mhenrhosgarnedd.

Daw’r cyfraniad ariannol gan fod y datblygiad yn cynnwys 245 o dai newydd gyda’r potensial y bydd dros 90 o blant oed cynradd a 70 o blant oed uwchradd yn byw ynddynt.

Gyda rhai o ysgolion cynradd eisoes dros gapasiti ynghyd a’r ffaith fod potensial am gynnydd pellach yn niferoedd disgyblion yn y dyfodol, mae’r Cyngor wedi adnabod fod angen adolygu darpariaeth addysg gynradd ym Mangor.

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Yn dilyn cymeradwyaeth Cabinet y Cyngor i fwrw ‘mlaen i adolygu darpariaeth addysg gynradd yn ninas Bangor, mae penderfyniad wedi ei wneud i gychwyn trafodaethau yn lleol gyda phenaethiaid staff a llywodraethwyr ysgolion y dalgylch, ac aelodau lleol y ddinas.

"Bydd cyfle i adolygu ysgolion cynradd y dalgylch cyfan wrth gymryd i ystyriaeth gwahanol opsiynau posib ar gyfer sicrhau’r addysg orau i blant a phobl ifanc y ddinas.

“Mae’r buddsoddiad sylweddol yma yn ein galluogi ni i edrych ar ddarpariaeth addysg gynradd ym Mangor.

"Bydd hyn yn ein galluogi i gychwyn trafodaeth yn lleol er mwyn sicrhau’r opsiynau gorau ar y ffordd ymlaen fel y gallwn ni wella’r ddarpariaeth a chynnig yr addysg o’r ansawdd gorau i blant y ddinas gyfan.”

Yn dilyn cymeradwyaeth Cabinet y Cyngor, bydd trafodaethau lleol yn dechrau yn fuan ar adolygu darpariaeth addysg gynradd ym Mangor.

Y cam nesaf fydd sefydlu Panel Adolygu Dalgylch a fydd yn cynnwys penaethiaid, llywodraethwyr ac aelodau lleol er mwyn adnabod a thrafod opsiynau cyn cytuno ar opsiwn ffafredig a fydd yn ymateb i anghenion addysg yr ardal i’r dyfodol.

Bydd cynllun busnes manwl hefyd yn cael ei gyflwyno am ystyriaeth Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cymeradwyaeth ar gyfer pob prosiect a gyflwynwyd hyd yma.

Prif nod y rhaglen ydi darparu addysg o’r radd flaenaf drwy sicrhau dosbarthiadau addas ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel.

Mae’r rhaglen hefyd yn anelu at hyrwyddo a chryfhau'r iaith Gymraeg, datblygu cynllun hir dymor rhagweithiol a chreadigol, gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael, creu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i blant ac athrawon y sir a datblygu ysgolion yn sefydliadau sy'n ganolbwynt i weithgareddau cymunedol. 

Rhannu |