Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ionawr 2017

Triawd piano nodedig yn serennu mewn gŵyl gerdd

Bydd triawd piano byd-enwog yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi ei ysbrydoli gan ystâd ddiwydiannol adfail yn yr Almaen pan fydden nhw’n ymweld â Gogledd Cymru i berfformio yn Ngŵyl Gerdd Bangor, yng Nghanolfan Pontio yn ninas Bangor.

Bydd y Fidelio Trio yn serennu yng nghyngerdd olaf Gŵyl Gerdd Bangor am 7:30yh, dydd Sadwrn, Chwefror 18 yn Theatr Bryn Terfel, Pontio.

Bydd y perfformwyr dawnus, a fu ar restr fer Gwobrau’r Royal Philharmonic Society Music Awards, yn cynnwys y feiolinydd Darragh Morgan, y pianydd Mary Dullea a’r sielydd Adi Tal.

Thema’r ŵyl eleni yw Pensaernïaeth/Tirwedd Trefol sydd wedi ei ysbrydoli gan yr adeilad eiconig lle gynhelir yr Ŵyl, sy’n prysur sefydlu ei hun fel canolfan o bwys mawr i fywyd diwylliannol Cymru.

Yr hyn sy’n gwneud yr ŵyl yn wahanol eleni yw y cynhelir yr holl gyngherddau a’r gweithdai ar un diwrnod yn hytrach na’u cynnal dros gyfnod o wythnos fel a gafwyd yn y gwyliau blaenorol.

Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi llwyfan i lu o berfformiadau cyntaf, gan gynnwys gwaith newydd gan un o gyfansoddwyr ifanc pennaf Ewrop, Gareth Olubumni Hughes, a aned yng Nghaerdydd.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill bydd cerddoriaeth a ysbrydolwyd gan luniau a fideos o bontydd, gyda’r ffilmiau’n cael eu dangos yn sinema Pontio, i gyfeilio cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac a berfformir gan Gerddorfa Sesiwn Bangor.

Tuag amser te, llenwir yr adeilad â cherddoriaeth gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor mewn digwyddiad cynnwys premiere o ddarnau gan Claire Victoria Roberts a Jonathan Roberts, ymhlith myfyrwyr cyfansoddi eraill.

Bydd y cyngerdd gyda’r Fidelio Trio yn cynnwys premiere byd o weithiau newydd gan Sarah Lianne Lewis a Roger Marsh, gyda’r ddau wedi cael eu comisiynu gan yr ŵyl.

Yn ôl Darragh, sy’n hanu o Belfast ac sydd hefyd yn athro ffidil yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, mae rhaglen Gŵyl Gerdd Bangor a roddwyd ynghyd gan y cyfarwyddwr artistig Guto Pryderi Puw, yn “glyfar iawn” gyda phrif thema o adeiladau a phensaernïaeth.

Dywed Darragh, sy’n briod â Mary Dullea: “Fel triawd piano rydym ni’n mwynhau perfformio gweithiau newydd gymaint ag ydym ni’n mwynhau perfformio cerddoriaeth hŷn.

“Mae’r rhaglen ar gyfer Bangor yn gyffrous ac yn ysbrydoledig ac wedi rhoi’r cyfle i ni berfformio gweithiau gan rhai o’n hoff gyfansoddwyr.

“Er enghraifft, rydw i’n mynd i fod yn chwarae gwaith gan y cyfansoddwr ifanc o Hastings, Morgan Hayes dan y teitl Völklinger Hütte. Fe gyfansoddodd Hayes y darn wedi iddo ymweld â hen ystâd ddiwydiannol yn Sarrbrücken, yr Almaen.

“Cafodd fraw gan yr hyn a welodd a chael ei ysbrydoli i gyfansoddi darn trawiadol ac atgofol sy’n disgrifio’r ffordd y mae ef yn dehongli’r adeiladau a thirlun llwm yr ystâd.

“Rydym ni wedi chwarae a recordio nifer o gyfansoddiadau Morgan Hayes ac mae o wedi ysgrifennu darn unawd i’r ffidil i mi.”

Ychwanegodd: “Rydym ni hefyd yn mynd i berfformio gweithiau gan Gavin Higgins dan y teitl The Ruins of Detroit a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Cheltenham yn 2014. Mae’n waith hyderus ysgrifennwyd wedi i Gavin gael ei ysbrydoli gan ffotograffiaeth o Detroit gan Yves Marchand a Romain Meffre. 

“Hefyd bydd Mary yn perfformio darn piano, The Towers of Silence, gan Rolf Hind, ac rydym ni hefyd wedi ein rhaglennu i berfformio ychydig o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Groegaidd Iannis Xenakis.”

Mae Darragh yn ymarfer chwarae’r ffidil rhwng pedair a chwe awr y diwrnod ac yn aml gall sesiynau ymarfer fod yn hirach hefyd.

Dywedodd: “Rwy’n chwarae ffidil ragorol, Rocca Eidalaidd. Mae’n offeryn anhygoel a wnaethpwyd yn 1848 ac sy’n meddu ar sain cynnes a hardd iawn. Rwy’n berchen ar oddeutu chwarter o’r offeryn gyda’r Royal Academy of Musicians yn berchen ar y gweddill.

“Mae’n offeryn gwerthfawr iawn ac yn mynd gyda fi i bob man a dw’i byth yn ei adael allan o fy ngolwg.”

Dyweda Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, Guto Pryderi Puw: “Mae’r Fidelio Trio yn ddehonglwyr penigamp o’r genre triawd piano ac mae ganddyn nhw repertoire trawiadol iawn o gerddoriaeth gyfoes.

“Maen nhw wedi perfformio ar rai o lwyfannau cyngerdd rhyngwladol enwocaf ac yn aml yn darlledu ar BBC Radio 3 a sianeli clasurol eraill ledled y byd.

“Mae ganddynt restr hir o gomisiynau newydd a pherfformiadau cyntaf gan rai o gyfansoddwyr pennaf a’r genhedlaeth ieuengaf o gyfansoddwyr. Mae ganddynt hefyd restr ddisgyddiaeth drawiadol iawn yn cynnwys recordiadau nodedig.”

Ychwanegodd: “Mae’n wych eu bod nhw wedi cytuno i chwarae yn ystod ein cyngerdd olaf ac rwy’n edrych ymlaen at fwynhau eu perfformiadau”.

“Rwy’n disgwyl, gyda cherddorion o’r ansawdd hyn, y bydd y cyngerdd yn mynd i werthu allan yn gyflym iawn a byddwn yn cynghori y sawl sy’n hoff o gerddoriaeth i archebu tocynnau yn gynnar.”

Am ragor o wybodaeth am Gŵyl Gerdd Bangor ac i archebu tocynnau ewch i’r wefan http://www.gwylgerddbangor.org.uk

Rhannu |