Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Ionawr 2017

Cyfle i roi hwb i’r Gymraeg yn y gymuned

Mae cyfres o sesiynau yn cael eu cynnal yng nghymunedau Gwynedd y mis nesaf i gynorthwyo unigolion a grwpiau cymunedol i fod yn fwy hyderus i gynnal gweithgareddau yn Gymraeg.

Bydd y sesiynau sy’n cael eu cynnal gan Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) yn cynnwys cyflwyniad gan Menna Jones, Antur Waunfawr a Dylan Bryn Roberts, Rheolwr canolfan Popdy ym Mangor, yn ogystal â chyfle i rannu syniadau ac ymarfer da.

Mi fydd y sesiynau yn addas ar gyfer pwyllgorau cymunedol, neuaddau, cymdeithasau ac unrhyw un arall â diddordeb i’w cynorthwyo i roi’r Gymraeg ar y brig.

Meddai Dafydd Iwan, Cadeirydd Hunaniaith a fydd yn arwain y sesiynau ym mis Chwefror: “Ein gobaith yw y bydd y sesiynau hyn yn helpu unigolion a grwpiau cymunedol i fod yn fwy hyderus i gynnal gweithgareddau yn Gymraeg, i roi hwb i eraill wneud yr un modd, ac i ganfod ffyrdd o ddenu pobl newydd i mewn i’r gweithgareddau hyn.”

Cynhelir y sesiynau ar:

  • 2 Chwefror: Canolfan Henblas, Y Bala: 6-8 yr hwyr
  • 9 Chwefror: Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog: 2-4 y pnawn
  • 16 Chwefror: Antur Waunfawr: 6-8 yr hwyr

Gofynnir i unrhyw un sydd yn awyddus mynychu un o’r sesiynau i gadw lle o flaen llaw erbyn 31 Ionawr. I gofrestru neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hunaniaith ar 01286 679452 / hunaniaith@gwynedd.llyw.cymru 

Rhannu |