Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ionawr 2017

Toriadau pellach i S4C? Ymgyrchwyr yn mynnu datganoli darlledu

Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynnu bod angen datganoli'r cyfrifoldeb dros ddarlledu yn sgil sylwadau gan weinidog mewn pwyllgor yn San Steffan heddiw (Mercher, 18 Ionawr) bod bwriad torri dros £700,000 o grant S4C eleni.

Yn y ddadl, dywedodd Matthew Hancock, Aelod Seneddol Gorllewin Suffolk, sydd yn weinidog â chyfrifoldeb dros polisi digidol, bod grant uniongyrchol y Llywodraeth i'r sianel, sydd werth £6.8 miliwn eleni, "wedi ei osod i fod yn £6.058 miliwn" ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Wrth i aelodau seneddol gwestiynu'r toriad arfaethedig, dywedodd hefyd "fod yr ysgrifennydd gwladol yn edrych ar y mater hwnnw".

Fis yn ôl, datganodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn gwrthod talu ei ffi drwydded mewn ymdrech i ddatganoli'r grym dros ddarlledu i wleidyddion yn y Cynulliad.

Bydd y mudiad yn lansio papur ym Mangor ddydd Sadwrn gan gyflwyno buddion posibl rhoi gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn gyfrifol am y sbectrwm darlledu.  

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Os yw'n wir y bydd toriadau pellach, byddai'n destun pryder mawr, nid yn unig i S4C a'i gweithwyr, ond i gyflwr y Gymraeg hefyd.

"Rwy'n methu credu bod y Ceidwadwyr yn bwriadu torri eu maniffesto i ddiogelu cyllideb S4C, yn enwedig ar ôl ceisio gwneud yr un peth y llynedd.

"Mae hyn ar ben y toriadau arswydus a wnaed ers 2010: mae fel bod y Llywodraeth yn Llundain yn ceisio mygu ein hunig sianel deledu Gymraeg i farwolaeth.

"Mae’n fater o frys bellach bod y cyfrifoldeb dros ddarlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru, nid yn unig achos y newyddion diweddaraf hyn.

"O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol a wnaed eisoes i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru.

"Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru, nid Gweinidogion yn Llundain sydd gyda dim diddordeb yn ein gwlad heb sôn am ein hiaith."

Mewn llythyr a anfonwyd at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dderbynion nhw wythnos diwethaf am y sianel, mae Ysgrifennydd Cymru yn dweud: "Ni wnaed unrhyw newidiadau i'r cyllid arfaethedig ar gyfer y flynyddoedd i ddod yn Natganiad yr Hydref."

 Y cyllid arfaethedig mae Alun Cairns yn cyfeirio ato yw'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain ym mis Tachwedd 2015 y byddai toriad o 25% i'r grant o £6.7 miliwn y maent yn rhoi i'r sianel.

Daeth hynny er gwaethaf addewid clir ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2015 i "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C".

Gwnaed tro pedol dros dro gan rewi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn unig, ond doedd dim sôn am y cyfnod wedi hynny.  

Rhwng 2010 a 2015, gwnaed toriadau o 40% i gyllideb S4C gan Lywodraeth Prydain, ac arbedon nhw 93% o’u grant i’r unig sianel Gymraeg.

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf:  “Felly, mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus; mae'r BBC wedi penderfynu dod â'r arbrawf Radio Cymru Mwy i ben; ac mae diffyg difrifol o ran darlledu yn Gymraeg ar radio masnachol a theledu lleol, sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Gymru.

"Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr o ganlyniad i ddarlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig.

"Mae hyd yn oed ymddiriedolwraig y BBC yng Nghymru yn gwneud synau cadarnhaol am ddatganoli."

Yn natganiad Hydref y Canghellor y llynedd, cyhoeddwyd y bydd cyllideb yr adran ddiwylliant yn codi o £65 miliwn dros y pedair blynedd nesaf gyda phlasty yn swydd Efrog yn elwa o grant ychwanegol gwerth £7.6 miliwn.

Ymateb Huw Jones

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Rydym yn croesawu’r drafodaeth fu yn San Steffan heddiw a sylwadau cefnogol y Gweinidog yn yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

"Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddiad pellach ynglŷn ag amseriad adolygiad y Llywodraeth, cyllido tymor byr a phwerau benthyg."  

Rhannu |