Mwy o Newyddion
Rhaid trosglwyddo pwerau ariannol i Gymru
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi galw am i Gomisiwn Calman Cymru wneud ei waith rhag blaen a throsglwyddo pwerau ariannol i Gymru rhag blaen, ar ôl i i Fanc Lloegr unwaith eto ostwng rhagolygon twf economaidd y DG ar gyfer 2011.
Dadl Mr Edwards yw y buasai datganoli pwerau ariannol ac economaidd mwy i’r Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu i Lywodraeth Cymru weithredu er lles Cymru yn hytrach na dibynnu ar Lundain i wneud penderfyniadau.
Mae Plaid Cymru wedi cynnig mesurau megis gostyngiad yn y dreth gorfforaeth yng Nghymru, buddsoddi mewn seilwaith a swyddi a thorri TAW dros dro i hybu’r economi.
Meddai Mr Edwards: “O ganlyniad i bolisïau llywodraeth Con-Demaidd y DG, torrwyd rhagolygon twf economaidd y DG eto fyth, gyda’r disgwyl i dwf am 2011 yn awr fod bron hanner yr hyn y proffwydwyd fyddai yr adeg hon llynedd.
“Gan y dywed yr holl ddangosyddion fod Cymru yn adfer yn arafach na de-ddwyrain Lloegr, mae’n hanfodol i gomisiwn Calman Cymru, a fydd yn edrych i mewn i bwerau ariannol a democratiaeth Gymreig, wneud ei waith yn fuan ac yn brydlon.
“Yr oedd digwyddiadau 2008, pan gychwynnodd yr argyfwng economaidd hwn, yn cadarnhau ein cred nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau i wneud gwir wahaniaeth i economi Cymru.
“Mae Plaid Cymru wedi gosod allan gyfres o syniadau ar gyfer Cymru a fydd yn hybu twf economaidd a swyddi yma.
“Mae arnom angen pwerau dros dreth gorfforaeth yng Nghymru, fel y gallwn roi mantais economaidd i’n cwmnïau yn y farchnad.
“Dylem allu benthyca arian i fuddsoddi yn ein seilwaith, megis ysbytai ac ysgolion, a chreu swyddi adeiladu – cynllun Adeiladu i Gymru y Blaid.
“Yn San Steffan, rydym wedi awgrymu toriad dros dro mewn TAW, i’r 17.5% yr oedd llynedd, fyddai yn rhoi hwb i’r economi yma, y funud hon, yn ogystal â helpu teuluoedd sydd dan bwysau. Rydym yn siomedig fod y blaid Lafur wedi methu cefnogi ein gwelliant i’r perwyl hwn ym Mesur Cyllid eleni.
“O weithio gyda’i gilydd, buasai’r polisïau hyn yn cefnogi cwmnïau a theuluoedd Cymreig a siomwyd gan Lafur.
“Fel Canghellor y DG, mae George Osborne wedi methu a gosod Cynllun B os bydd ei doriadau llym yn methu, fel yr awgryma’r ffigyrau hyn yn gryf iawn.
“Dyw rhoi eich holl wyau mewn un fasged, fel y gwnaeth y DG gyda’r sector ariannol, fyth yn gynllun da, ac yr wyf yn gobeithio y bydd yn syrthio ar ei fai yn sydyn ac yn cynnig cynlluniau eraill ar gyfer twf.”