Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Ionawr 2017

Taith hen geir i goffáu Hedd Wyn

YM mis Gorffennaf 1917, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, lladdwyd Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) o Drawsfynydd, Gwynedd, ym Mrwydr Passchendaele.

Can mlynedd i’r dydd, cynhelir gwasanaeth i goffáu ei fywyd, yn ardal Ypres, Gwlad Belg. 

Trefnir taith hen geir o Gymru i Ypres, ym mis Gorffennaf, a bydd cyfle i’r rhai a fydd ar y daith i fynychu’r gwasanaeth.

Bydd tua 20 o hen geir yn teithio o Abertawe ar 27 Gorffennaf gan anelu i gyrraedd ardal Ypres y diwrnod canlynol i gymryd ran yn y digwyddiadau a drenfir ar faes y gâd ar 29-31 o Orffennaf.

Ychydig o wythnosau cyn seremoni cadeirio bardd buddugol Eisteddfod Penbedw yn 1917, lladdwyd Hedd Wyn ym mrwydr Passchendaele.

Hedd Wyn oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth, wedi iddo ddanfon ei gerdd i’r Eisteddfod, o faes y gad.

Yn seremoni cadeirio’r bardd buddugol, cafodd y Gadair ei gorchuddio gan frethyn du – Seremoni’r Gadair Ddu.

Bydd cyfle i’r cyhoedd edmygu’r hen geir yn y Mwmbwls cyn iddynt adael ar y daith.
I sicrhau eich lle ar y daith, cysyllter â’r trefnydd, Huw Landeg Morris drwy ddanfon e-bost yn datgan eich diddordeb at landeg@ntlworld.com

Dim ond lle i 20 car sydd. Dyma’r ail daith i Huw Landeg Morris, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, ei drefnu.  Bu taith 2016, i goffau canmlwyddiant Brwydr Mametz, yn llwyddiant mawr. 

Bydd y pris tua £499 am ddau berson a fydd yn teithio gyda’i gilydd. Bydd y pris yn cynnwys y fordaith a tair noson mewn gwesty tair seren.

Llun: Trefnydd y daith hen geir o Gymru i Ypres, Huw Landeg Morris

Rhannu |