Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Ionawr 2017

Darlith feddygol gyntaf yn Gymraeg

Roedd dros ddau gant o fyfyrwyr yn bresennol i glywed y ddarlith feddygol gyntaf yn Gymraeg yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd ddechrau’r wythnos.

Y Dr Awen Iorwerth, darlithydd dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, oedd yn traddodi ar strwythur esgyrn. Roedd cyfieithiad ar y pryd i fyfyrwyr di-Gymraeg.

Mae Awen Iorwerth, sy’n credu’n gryf yn y defnydd o’r Gymraeg mewn meddygaeth, yn ymgynghorydd Trawma ac Orthopaedeg gydag arbenigedd yn yr ysgwydd a’r benelin i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn fuan wedi ei phenodi datblygodd flas ar hyfforddi llawfeddygon ifanc.

Wedi cyfnod byr fel tiwtor llawfeddygol i’r Coleg Brenhinol, cafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Llawfeddygon Craidd Cymru.

Trwy ei gwaith gyda’r tîm hwnnw, mae’r rhaglen wedi gwella’n sylweddol i fod yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain.

Graddiodd Awen Iorwerth o Goleg Meddygol Prifysgol Cymru Caerdydd (bellach Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd).

Ar ôl blwyddyn yn dysgu anatomeg ym Mhrifysgol Caerdydd, symudodd i Gaergrawnt i ddechrau ar ei hyfforddiant fel llawfeddyg.

Yn ôl yng Nghymru, cymhwysodd fel Cymrawd o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon cyn dechrau ar ei hyfforddiant arbenigol ym maes Trawma ac Orthopaedeg.

Treuliodd amser yn gweithio mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru a bu’n gwneud gwaith ymchwil labordy yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Derbyniodd wobr Cymrawd Cymdeithas Llawfeddygon Pen-glin Prydain (BASK) i gwblhau’r gwaith hwnnw.

Ond penderfynodd mai byd yr ysgwydd a’r benelin oedd ei diddordeb pennaf ac fe dreuliodd gyfnod fel cymrawd yn yr arbenigedd hwnnw yn Sydney.

Yn 2009, gyda Chymrodoriaeth BESS (Cymdeithas Ysgwydd a Phenelin Prydain), cafodd y fraint o dreulio cyfnod yn Ysbyty Cyffredinol Massachussets. Yn dilyn hyn bu yn Cape Town gyda’r arloeswr Dr Joe de Beer.

Bu’r profiad yn bwysig yn ei datblygiad fel llawfeddyg – ond nid y gwaith clinigol yn unig a agorodd ei llygaid. 

Sylwodd ar rwyddineb y bywyd amlieithog ym maes iechyd.

Yn Ne Affrica, roedd tair iaith yn cael ei defnyddio rhwng y staff – Afrikaans, Xhosa a Saesneg .

Yn y clinig, roedd cleifion yn cael defnyddio iaith o’u dewis heb unrhyw chwithdod.

Yn syndod i Awen, yr un oedd y sefyllfa yn Efrog Newydd gyda Sbaeneg a Saesneg yn cael eu defnyddio’n hawdd a didrafferth yn gyfnewidiol.

Ers 2010 mae Awen wedi bod yn trefnu cynadleddau’r de i’r Gymdeithas Feddygol.

Mae’n benderfynol, gyda chefnogaeth gweddill y pwyllgor, y dylai hwn fod yn fforwm i hybu defnydd naturiol o’r Gymraeg.

Ei nod hefyd yw gwneud hynny yn y gweithle iechyd ac mewn gwaith gwyddonol i adeiladu ar seiliau addysg Gymraeg mewn ysgolion.

Ac yn bwysicach, i roi dewis iaith i gleifion. Gobeithia hefyd y gall hyn helpu i leddfu problemau recriwtio meddygon yng Nghymru.

Llun: Y Dr Awen Iorwerth

Rhannu |