Mwy o Newyddion
Cofrestru ar-lein i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
MAE’N flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, a golygon partïon, corau, grwpiau, bandiau ac unigolion yn troi tua’r ynys wrth iddyn nhw ddechrau meddwl am gystadlu.
Efallai bod bron i saith mis i fynd cyn yr ŵyl ei hun, ond mae’n rhaid cofrestru i gystadlu ar y llwyfan erbyn 1 Mai.
Ac mae’n llawer haws cofrestru i gystadlu erbyn hyn, gyda system cofrestru ar-lein yr Eisteddfod.
Dyma’r ail dro i’r trefnwyr ddefnyddio’r system hon er mwyn denu cystadleuwyr i fod yn rhan o’r Eisteddfod.
Bu’r system yn llwyddiant y llynedd yn Sir Fynwy ‘r Cyffiniau, gyda 80% o’r cystadleuwyr llwyfan yn dewis cofrestru a chysylltu drwy’r we.
Mae modd pori drwy’r cystadlaethau a thalu ar-lein i gymryd rhan heb orfod meddwl am gael hyd i ffurflen gais, amlen a stamp.
Gellir cofrestru ar-lein o’r cartref neu hyd yn oed o’r ffôn clyfar, gan fod y wefan yn gweithio ar draws pob platfform.
Dim ond y cystadlaethau llwyfan sydd wedi’u cynnwys ar y system, felly bydd rhaid i’r rheiny sydd wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi gofrestru yn y ffordd arferol drwy’r post, a hynny erbyn 1 Ebrill.
Meddai trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y system gofrestru ar-lein ar ar gael unwaith eto eleni.
“Roeddem yn fodlon iawn gyda’r ymateb a gafwyd y llynedd, a’r gobaith yw y bydd mwy a mwy o bobl yn dewis defnyddio’r we bob blwyddyn. Wrth gwrs, bydd rhai pobl yn dal i ffafrio cystadlu yn y ffordd draddodiadol, gan yrru ffurflen gais drwy’r post, ac mae hynny’n hollol dderbyniol hefyd.
“Y peth pwysig yw sicrhau bod pawb sydd eisiau cystadlu yn cysylltu, naill ai drwy’r we neu drwy’r post er mwyn i ni gael llond lle o gystadleuwyr yn yr Eisteddfod yn Ynys Môn.
“Rwy’n siŵr y bydd mwy a mwy o bobl yn newid o’r system gofrestru bapur draddodiadol wrth iddyn nhw sylweddoli bod modd cofrestru i gystadlu ar-lein dros y blynyddoedd nesaf.”
Ewch i http://www.eisteddfod.cymru/cystadlaethau i gofrestru i gystadlu cyn 1 Mai.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar gyrion Bodedern o 4-12 Awst.
Llun: Elen Elis