Mwy o Newyddion
Galw ar Lywodraeth Cymru i symud ar fyrder i greu croesfan ddiogel ym Mhenrhyndeudraeth
Yn dilyn ail ddamwain yn ymwneud â phlentyn ar brif ffordd yr A487 ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd, mae’r Cynghorydd Plaid Cymru dros yr ardal, Gareth Thomas yn galw ar y Gweinidog dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru i symud ar fyrder i gyflwyno croesfan ddiogel yn y dref.
Bu plentyn tair oed mewn gwrthdrawiad â char, wrth iddi groesi’r ffordd gyda’i theulu yr wythnos ddiwethaf.
Yn ffodus, ni anafwyd y plentyn, ond roedd y profiad yn un dychrynllyd i’r teulu a’r gymuned leol.
Dywedodd y Cyng Thomas: “Diolch byth, ni anafwyd y plentyn bach yn ystod y digwyddiad. Ond gallai’r canlyniadau fod yn gwbl wahanol. Rydym fel cymuned yn cofio’n gynnes iawn at y plentyn a’r teulu.
“Rydym wedi bod yn galw a galw ar Lywodraeth Cymru i symud ar y mater yma ers peth amser.
"Mae gohebiaeth wedi bod nôl a blaen, y cyntaf cyn i’r gwaith o ddatblygu Pont Briwet orffen, yn dweud bod angen edrych ar y ffordd yma, oherwydd bod risg uchel yn yr ardal oherwydd cynnydd yn llif y traffig a bod trigolion lleol yn croesi’r ffordd yn y lleoliad yma.
"Mae plant o dair stad dai lleol yn croesi’r ffordd ar y gyffordd ar yr A487 ger Garej Deudraeth wrth gerdded i’r ysgol, ac mae pobl oedrannus a thrigolion lleol hefyd yn defnyddio'r un gyffordd i gyrraedd y feddygfa a fferyllfa’r dref.
“Dyma’r ail ddamwain yn ymwneud â phlentyn i mi fod yn ymwybodol ohono, ond mae nifer o ddigwyddiadau eraill wedi bod lle mae plant ac oedolion wedi osgoi damwain o drwch blewyn.
"Mae gwir gwir bryder ym Mhenrhyndeudraeth, ac rydym angen cynllun ac amserlen glir gan Llywodraeth Cymru bod croesfan i ddod yma.
“Mae’n hawdd iawn i swyddogion mewn swyddfa yng Nghaerdydd eistedd ar y materion yma, ac osgoi gwneud penderfyniadau. Ond y realiti yma yw, wrth i fisoedd fynd heibio, mae pryder pobl leol yn cynyddu am ddiogelwch plant a thrigolion Penrhyndeudraeth.
“Mae osgoi gweithredu yn gyrru ias i lawr fy nghefn. Dwi’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i symud ar frys a gosod cynllun mewn lle ac amserlen glir i bobl leol gael rhywfaint o gysur meddwl bod croesfan i ddod i’r A487 yn y dref yn yr wythnosau nesaf.
"Rydym wedi aros ddigon hir. Mae bellach angen blaenoriaethu hyn."
Mae’r Cynghorydd Thomas mewn trafodaethau gyda Phennaeth Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth Rhys Meredydd Glyn i gydweithio er mwyn atgoffa’r disgyblion sy’n cerdded i’r ysgol am bwysigrwydd diogelwch y ffordd.