Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2017

Enillydd The Apprentice yn yr Ardd Fotaneg

Bydd y wraig fusnes ac enillydd ‘The Apprentice’ Alana Spencer yn dechrau ei bywyd newydd, cyffrous fel y mentrwr wedi’i chefnogi gan Alan Sugar, yn Ffair Fwyd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Bydd Alana yn cymryd ei lle yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster ar Ddydd Sadwrn a Sul, Ionawr 21-22, ynghyd â dewis eang o fwyd a diod flasus o gynhyrchwyr Gorllewin Cymru.

Meddai trefnydd y digwyddiad, David Hardy: “Does dim ffordd well o godi’ch calon yn ystod mis hir, diflas o Ionawr na ffair fwyd.

"Bydd hyn yn ddigwyddiad blasus iawn gyda selsig arbennig, cymysgedd perffaith o wirodydd, cig, a bwyd feganaidd, hon fydd y lle i fod y penwythnos nesaf.”

Mae mynediad i’r Ardd ond yn £3.  Mae’r gatiau’n agor o 10yb ac yn cau am 4:30yp (mynediad diwethaf am 3:30yp). Nid oes unrhyw dâl ychwanegol i’r Ffair Fwyd ac mae digon o barcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am hyn neu unrhyw ddigwyddiad arall yn yr Ardd, ewch i https://garddfotaneg.cymru, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.

Rhannu |