Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Ionawr 2017

Achosion o’r ffliw ar gynnydd mewn ysbytai a meddygfeydd

Mae achosion influenza (ffliw) ar gynnydd yng Nghymru ac mae swyddogion iechyd yn annog yr henoed, rheiny sy’n feichiog ac unigolion â chyflyrau iechyd hirdymor i’w amddiffyn eu hunain gyda’r brechiad ffliw.

Mae nifer y bobl sydd wedi bod at eu meddyg, yn yr ysbyty neu mewn unedau gofal dwys i gyd wedi cynyddu yn y bythefnos ddiwethaf.

Cafodd bron i 800 o bobl ddiagnosis o salwch yn ymdebygu i ffliw gan feddygon ar draws Cymru yn ystod y bythefnos dros y Nadolig.

Mor belled, y gaeaf hwn mae 195 o achosion o ffliw wedi eu cadarnhau mewn ysbytai, gyda dros hanner o’r rhain yn y bythefnos ddiwethaf.

Mae 25 o achosion ffliw wedi eu cadarnhau mewn unedau gofal dwys.  

Mae dros ddeg achos o ffliw wedi eu cadarnhau mewn wardiau ysbyty a chartrefi gofal, y mwyafrif yn y bythefnos ddiwethaf.

Gall pobl o unrhyw oed gael eu heffeithio gan ffliw, a gall fod yn ddifrifol, gyda phlant ifanc, yr henoed, y rhai sy'n feichiog ac oedolion â chyflyrau cronig yn benodol mewn peryg o gael cymhlethdodau.

Gall y math o ffliw sy'n cylchredeg ar hyn o bryd yng Nghymru effeithio oedolion hŷn a'r henoed yn arbennig o ddifrifol.

Serch hynny, yn ystod yr wythnosau diwethaf mae’r nifer o oedolion iau a phobl ifanc fu’n gweld eu meddyg teulu â symptomau ffliw hefyd wedi cynyddu hefyd.

Mae nifer o unigolion bregus yn parhau heb gael eu diogelu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog y rhai sydd yn y grwpiau ‘risg’ nad yw’n rhy hwyr iddynt gael eu brechiad ffliw am ddim i’w hamddiffyn eu hunain rhag dal a lledu ffliw.

Mae imiwneiddio rhag y ffliw ar gael gan feddygon teulu ac mewn nifer o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ac mae am ddim gan y GIG ar gyfer y rhai mewn grwpiau risg.

Mae’r rhaglen frechu ysgolion ar gyfer plant 4-7 oed wedi’i chwblhau erbyn hyn, ac mae’r cyflenwad o’r brechlyn chwistrell trwyn sydd ar gael i blant 2 a 3 oed yn gyfyngedig.

Gall plant mewn grwpiau risg nad ydynt wedi cael eu brechu gael eu brechiad yn eu meddygfa o hyd.

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ffliw bellach ar gynnydd yng Nghymru.

"Dylai rheiny mewn grwpiau risg fod wedi eu brechu erbyn hyn, ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i gael eich amddiffyn os nad ydych wedi gwneud eisoes.

“Y feirysau sy’n cael eu canfod amlaf yw feirysau ffliw A (H3N2) ac mae disgwyl i’r brechiad ffliw gaiff ei gynnig y tymor hwn gynnig diogelwch da.

“Byddem yn disgwyl i feirws y ffliw gylchredeg yng Nghymru am chwech i wyth wythnos ar lefelau uwch, ac ar lefelau is am gyfnod hwy, felly mae’n bwysig sicrhau bod pawb sy’n gymwys i gael eu brechu wneud hynny cyn gynted â phosib er mwyn eu hamddiffyn am weddill y tymor.”

Argymhellir bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n dod i gyswllt uniongyrchol â chleifion, a gofalwyr, yn cael brechiad y ffliw i’w diogelu nhw rhag ffliw a’u hatal rhag ei rannu gyda’r bobl yn eu gofal.

Ychwanegodd Dr Roberts: “Mae’n bwysig hefyd fod unrhywun mewn grŵp risg sydd yn datblygu symptomau ffliw yn gofyn am gyngor yn fuan i’w drin.”

Yn wahanol i annwyd cyffredin a all ddatblygu dros sawl diwrnod, mae symptomau ffliw fel arfer yn datblygu’n gyflym iawn gyda thymheredd uchel a chur pen yn aml, y cyhyrau’n boenus, blinder eithafol a pheswch.

Nid oes angen i’r mwyafrif o bobl sydd â symptomau ffliw weld y meddyg, a dylent yfed ddigon o hylif, cymryd Ibuprofen neu paracetamol i wella’r symptomau, ac osgoi cyswllt ag unigolion bregus tra bod y symptomau arnyn nhw, sydd fel arfer yn gwella o fewn wythnos fel rheol.

Dylai rheiny mewn grwpiau risg ac sy’n meddwl fod ganddynt ffliw gysylltu â’u meddyg neu gael cyngor gan Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 unwaith mae’r symptomau’n cychwyn rhag ofn fod angen meddyginiaeth gwrth-feirysol.    

Anogir pawb i ddilyn tri cham syml i atal ffliw rhag lledu:

  • ‘Ei Ddal’ – pan yn tisian neu beswch gwnewch hynny i mewn i hances bapur
  •   ‘Ei Daflu’ - cofiwch gael gwared o’r hances yn syth
  •  ‘Ei Ddifa’ - yna golchwch eich dwylo neu defnyddiwch ddiheintydd dwylo i ladd unrhyw feirws ffliw

Dywedodd Dr Roberts: “Pan mae’r ffliw ar led yn eang, ar wahân i gael brechiad, dilyn cyngor ‘Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa’ a chadw oddi wrth eraill tra’ch bod yn sâl yw’r dulliau gorau o helpu atal ei ledu.”                  

Salwch anadlol yw’r ffliw a achosir gan feirws sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau aer.

Mae feirws y ffliw’n lledaenu’n rhwydd drwy ddafnau bychain a gaiff eu chwistrellu i’r awyr pan fydd person sydd wedi’i heintio’n pesychu neu’n tisian.

Gall cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau sydd wedi’u llygru ledu’r haint hefyd.    

Mae posib i unrhyw unigolyn sy’n teimlo’n sâl gyda symptomau tebyg i’r ffliw gael cyngor am driniaeth ar wefan Galw Iechyd Cymru yn http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/default.aspx?locale=cy neu ar y llinell gymorth ar 0845 46 47. 

Rhannu |