Mwy o Newyddion
Efrog Newydd yn rhoi llwyfan i'r Cantata Memoria
Bydd campwaith corawl Syr Karl Jenkins, sy'n nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan, yn cael ei berfformio ar lwyfan fyd-enwog Carnegie Hall yn Efrog Newydd - y tro cyntaf iddo gael ei berfformio yn fyw yng ngogledd America gan rannu a chofio hanes Aberfan ar draws y byd.
Comisiynwyd y gwaith gan S4C, a'i greu gan y cyfansoddwr o Benclawdd Syr Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood.
Fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf erioed yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 8 Hydref 2016, gyda'r darllediad cyntaf ar S4C y noson ganlynol.
Mae'r gwaith, Cantata Memoria: Er mwyn y plant, wedi derbyn canmoliaeth eang gan gyrraedd brig y siartiau cerddoriaeth glasurol (Official Classical Artist Albums Chart).
Fe'i comisiynwyd er mwyn nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan, pan laddwyd 144 o bobl, yn cynnwys 116 o blant Ysgol Pantglas.
Mae'n ddarn o waith cerddorol a barddonol sy'n sefyll ar ei draed ei hun, ond sy'n deyrnged addas i'r gymuned sydd wedi adeiladu o'r newydd yn dilyn trasiedi, sydd wedi brwydro am gyfiawnder a throi tywyllwch yn oleuni.
"Mi fydd pwysigrwydd Cantata Memoria: Er mwyn y Plant yn oesol fel teyrnged barhaol i bobl Aberfan yn dilyn y trychineb ofnadwy hwnnw 50 mlynedd yn ôl," meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, fu'n arwain ar gomisiynu'r gwaith.
"Wrth i'r Cantata Memoria gael ei berfformio a'i glywed ar draws y byd, yn cynnwys y gyngerdd hon yn Neuadd Carnegie Efrog Newydd, bydd hanes cymuned Aberfan yn cael ei rannu a'i gofio.
"Roedd y profiad o ddod â'r gwaith yma yn fyw yn un wna i fyth ei anghofio.
"Rwy’ mor falch o'r campwaith mae Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood wedi ei greu, a bod S4C wedi bod yn rhan allweddol o'r prosiect ac mae'n enghraifft o ddyletswydd S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus i gyfrannu at gof cenedl."
Ymhlith y perfformwyr yn y gyngerdd yn Neuadd Carnegie ar nos Sul 15 Ionawr, bydd côr o'r ysgol berfformio yng ngogledd Cymru, Côr Glanaethwy.
Maen nhw yn ffurfio'r corws cymysg ynghyd â 14 côr arall o'r UDA a thu hwnt, gan gynnwys Y Ffindir, Yr Almaen a Swydd Sussex.
Ar gyfer y premiere yng ngogledd America, bydd casgliad o gantorion ac offerynwyr uchel eu bri, yn cynnwys y delynores Catrin Finch a'r chwaraewr Ewphoniwm, David Childs, oedd yn rhan o'r perfformiad gwreiddiol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Hydref 2016.
Mae Cantata Memoria: Er mwyn y Plant wedi cael ei ryddhau ar ffurf albwm gan Deutsche Grammophon.
Roedd cyngerdd Aberfan yn gynhyrchiad ar y cyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a MR PRODUCER ar ran Elusen Coffáu Aberfan ac wedi'i gynhyrchu ar gyfer y teledu gan Rondo Media i'w ddarlledu ar S4C.