Mwy o Newyddion
Parc Gwyddoniaeth Menai yn dechrau darparu cyflogaeth i bobl ifanc
Mae Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc), sy’n is-gwmni sydd o dan berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor ac sydd wrthi'n cael ei ddatblygu yn Ynys Môn, wedi ymroi i ddarparu cyflogaeth o safon uchel i'r rhanbarth.
Nod y prosiect uchelgeisiol hwn, y mae disgwyl iddo agor ei ddrysau yn 2017-18, yw darparu adeiladau o ansawdd uchel ar gyfer cwmnïau, a chynnig pecynnau cymorth unigryw i bob cwmni er mwyn eu cynorthwyo i dyfu.
Bydd rôl Swyddog Cefnogi Busnes yn cael ei hysbysebu yn y flwyddyn newydd er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn.
Wrth iddynt dyfu, bydd y cwmnïau yn y Parc yn recriwtio staff newydd mewn amrywiaeth o rolau, gyda chyfraddau cystadleuol.
Yn ddiweddar, mae M-SParc hefyd wedi penodi Swyddog Datblygu Busnes, wedi ei gyllido ag Arian Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â threulio amser yn trafod â chwmnïau a allai leoli yn M-SParc, mae staff wedi ymrwymo i ddarparu buddiannau cymunedol yn ystod y cyfnod adeiladu, ynghyd â'u contractwyr Willmott Dixon.
Mae'r set targedau yn uchelgeisiol, ond yn realistig, ac yn cynnwys annog rhagor o fenywod i ymuno â'r sector adeiladu, ymgysylltu â phobl ifanc sydd mewn perygl o ddiweithdra, darparu hyfforddiant lefel uchel ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol, cynnig interniaethau i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, prentisiaethau ar y safle, prosiectau i ymgysylltu ag ysgolion lleol mewn cyd-destun Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a gweithio gydag arlunwyr lleol i ymgysylltu â grwpiau cymunedol.
Tra’r oedd M-SParc yn datblygu'r buddiannau cymunedol, cysylltodd Sara Slaney, merch leol oedd newydd raddio.
Mae gan Sara, o Langristiolus, radd pensaernïaeth, ac roedd hi eisiau cyngor ar gamau nesaf ei gyrfa.
Yn sgil ei brwdfrydedd dros y prosiect, ac ar ôl bod mewn sawl cyfarfod gyda’r Contractwyr Willmott Dixon fel sylwedydd, mae Sara yn awr yn cynorthwyo ar y safle fel Rheolwr Dylunio Cynorthwyol.
Dywedodd Sara: "Bûm yn gweithio yn y Ganolfan Rheolaeth, lle mae swyddfeydd M-SParc ar hyn o bryd, a manteisiais ar y cyfle i gysylltu â'r tîm.
"Mae'r prosiect yn un cyffrous iawn, a gan ei fod mor agos at fy nghartref roeddwn yn teimlo y gallwn i chwarae rhan weithredol yn y gwaith.
"Rwy'n mwynhau fy rôl gyda Willmott Dixon, ac mae’n sicr wedi fy helpu i gael profiad yn fy rôl Rheoli Dylunio a hefyd o ran Cydlynu Dylunio, ac rwy’n gobeithio y bydd yn fy ngalluogi i ddilyn fy ngyrfa dylunio yn y dyfodol.”
Dywedodd David Williams o Gaernarfon, Rheolwr Adeiladu Willmott Dixon: "Mae Sara yn hynod awyddus i ddysgu cymaint ag y gall, ac mae ei brwdfrydedd yn cynnig ei hun yn dda i rôl Rheolwr Dylunio Cynorthwyol.”
Ychwanegodd Pryderi ap Rhisiart, rheolwr prosiect M-SParc: "Nid arwydd symbolaidd yw'r buddiannau cymunedol i ni.
"Mae'n bwysig iawn i ni fod y Parc Gwyddoniaeth yn darparu buddiannau i bobl leol, ac i'r gymuned ehangach, ym mha bynnag ffordd y gallwn ni.
"Yn ogystal â darparu swyddfa newydd a lle i labordai, rydym yn darparu cyfleoedd nad ydynt wedi bod ar gael o'r blaen yn y rhanbarth.
"Wrth wneud hynny, rydym yn gobeithio atal cwmnïau a phobl ifanc rhag gorfod gadael yr ardal i chwilio am y safle priodol a’r gyflogaeth briodol.”
Llun: Sara Slaney