Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ionawr 2017

Ymgynghoriad ar unigrwydd ac unigedd yng Nghymru

Bydd ymchwiliad newydd yn ystyried effaith unigrwydd ac unigedd, yn enwedig ar bobl hŷn yng Nghymru, a'r hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem.

Bydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn archwilio maint y broblem ar hyd a lled y wlad, a’r rhesymau drosti, ac yn ystyried yr hyn y mae awdurdodau lleol, cymunedau, cyrff gwirfoddol a Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem.

Bydd hefyd yn ystyried i ba raddau y gall mentrau a sefydlwyd i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill helpu pobl hŷn.

Mae ymchwil gan Age Cymru yn awgrymu bod 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo'n unig, a bod bron hanner y rhai a holwyd yn dweud mai eu set deledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar fywydau’r rhai sy'n teimlo'n unig, gan gynnwys y gwasanaethau tai, y seilwaith trafnidiaeth a chyfleusterau cymunedol.

Bydd hefyd yn ystyried effaith bosibl y rhyngrwyd, o ran helpu pobl i deimlo'n well neu'n waeth.

"Un o'r pwyntiau y byddwn yn ei archwilio yn ystod yr ymchwiliad hwn yw’r syniad nad yw unigrwydd ac unigedd yn golygu’r un peth," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Gall rhywun deimlo unigedd mewn cymuned wledig, ac unigrwydd mewn ystafell orlawn, ac i’r gwrthwyneb.

"Gall hefyd effeithio ar unrhyw un; pobl gyflogedig neu sydd wedi ymddeol, pobl sy’n byw mewn tref, dinas neu yng nghefn gwlad.

"Mae tystiolaeth yn dangos y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol; drwy atal unigrwydd ac unigedd, felly, mae’n bosibl y gellid lleihau’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

"Yr hyn y byddwn yn ei ystyried yw effaith y materion hyn ar iechyd a lles pobl hŷn a'r hyn y gellir, ac a gaiff, ei wneud i’w cynorthwyo.

"Mae'n bwnc cymhleth a allai gwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol, trafnidiaeth a mynediad digidol.

"Os yw unigrwydd neu unigedd yn effeithio arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod, yn awr neu yn y gorffennol, neu os ydych yn ymwneud â gwaith i geisio gwella’r sefyllfa, yna hoffem glywed am eich profiadau ac am y syniadau rydych chi’n credu a allai helpu.”

Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad, ewch i  dudalen y Pwyllgor  Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon  ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol, neu dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddIechyd.

Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 10 Mawrth.

Rhannu |