Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ionawr 2017

Gwobrau’r Selar: gig ychwanegol, a gwobr arbennig

Mae Y Selar wedi cyhoeddi bydd ail gig ar benwythnos y Gwobrau yn Aberystwyth eleni, gyda Geraint Jarman yn perfformio mewn gig acwstig arbennig yn Neuadd Pantycelyn ar nos Wener 17 Chwefror.

Mae’r gig yn gyfle i nodi deffroad o’r newydd un o artistiaid pwysicaf Cymru dros y pedwar degawd diwethaf, ag yntau wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf, Tawel yw’r Tymor, ym mis Gorffennaf – union 40 mlynedd ar ôl rhyddhau y cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif.

I gydnabod hirhoedledd Jarman, a’i gyfraniad enfawr i’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg, mae’r Selar wedi cyhoeddi y bydd yn derbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar ar y noson.

Dewis hawdd

Dyma fydd yr ail waith i’r wobr gael ei chyflwyno, gyda Datblygu yn ei derbyn llynedd.

Recordiau Sain sy’n noddi’r wobr eleni ac mae hynny’n briodol gan bod recordiau cynnar Geraint Jarman wedi eu rhyddhau ar Sain, a gan iddyn nhw ryddhau casgliad bocs-set arbennig o’i albyms rai blynyddoedd yn ôl.

“Roedd dewis ennill y wobr Cyfraniad Arbennig yn weddol rhwydd eleni gan bod 2016 yn nodi 40 mlynedd ers i Geraint Jarman ryddhau ei albwm cyntaf," meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Does dim amheuaeth bod cyfraniad Jarman i’r sin gerddoriaeth yng Nghymru yn un enfawr, ac mae’r cyfraniad yn ymestyn i’w bumed degawd bellach gyda rhyddhau’r ardderchog Tawel yw’r Tymor ar label Ankst.

“Mae’r albwm diweddaraf yn wahanol i’w waith blaenorol, ac yn acwstig ei naws, a bydd y gig ym Mhantycelyn yn adlewyrchu hynny, er bydd cyfle i glywed ambell glasur o’i ôl-gatalog hefyd.

"Mae amser maith ers i Geraint berfformio yn Aberystwyth, a bydd y gig yn un arbennig iawn.”

Cefnogaeth

Bydd The Gentle Good, sef prosiect cerddorol Gareth Bonello sydd wedi cydweithio llawer gyda Geraint Jarman yn ddiweddar gan gynnwys ar yr albwm diweddaraf, yn cefnogi ar y noson.

Rhyddhawyd albwm diweddaraf gwych y cerddor o Gaerdydd, Ruins / Adfeilion, yn yr hydref.

Bydd Geraint Jarman hefyd yn cymryd rhan mewn sgwrs arbennig am ei yrfa yn Aberystwyth fel rhan o weithgareddau ymylol dydd Sadwrn y Gwobrau.

I gyd-fynd â’r cyhoeddiad hwn, bydd dydd Iau 12 Ionawr yn ‘Ddiwrnod Jarman’ ar Radio Cymru, gyda sylw arbennig i’r cerddor trwy gydol y dydd. 

Mae Sain hefyd yn cynnig gostyngiad o 25% ar gasgliad bocs-set Jarman ar eu gwefan am y diwrnod.

Mae tocynnau gig Jarman ym Mhantycelyn ar werth o wefan Y Selar nawr - http://www.y-selar.co.uk/

Llun: Geraint Jarman  (Emyr Young)

Rhannu |