Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ionawr 2017

Prifysgol Abertawe'n dyfarnu Gradd er Anrhydedd i Chris Coleman

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu Gradd er Anrhydedd i Chris Coleman, y dyn a arweiniodd dîm cenedlaethol Cymru i dwrnamaint Ewropeaidd 2016 UEFA.

Cyflwynwyd y radd MSc (Meistr yn y Gwyddorau) i Chris Coleman heddiw  yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe gan Raymond Ciborowski, Cofrestrydd Prifysgol Abertawe, yn ystod seremoni raddio Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Yn ystod ei blentyndod yn ardal Townhill Abertawe, roedd Chris Coleman yn gefnogwr brwd Clwb Pêl-droed Lerpwl.  Chwaraeodd yn broffesiynol am y tro cyntaf i Ddinas Abertawe yn ystod hydref 1987, ac yntau'n 17 oed.

Yn ystod ei gyfnod gyda'r Elyrch, symudodd drwy rengoedd carfan ryngwladol Cymru, o'r tîm ieuenctid i'r tîm dan 21 oed.

Chwaraeodd bron 200 o weithiau i'r clwb yn ne Cymru gan eu helpu i ennill Cwpan Cymru ym 1989 ac ym 1991 pan wisgodd grys yr Elyrch am y tro olaf.

Ym 1991, llofnododd gyda Crystal Palace a oedd yn yr Adran Gyntaf ar y pryd.

Yn ystod ei gyfnod gyda'r clwb, cafodd ei ddewis i chwarae i brif dîm Cymru am y tro cyntaf. 

Sgoriodd yn ei gêm ryngwladol gyntaf i Gymru - yr un gyntaf o 32 - yn Vienna yn erbyn Awstria ar 29 Ebrill 1992 a'r sgôr derfynol oedd 1-1.

Parhâi ei yrfa i ffynnu ac, ym mis Rhagfyr 1995, llofnododd gyda Blackburn Rovers, pencampwyr yr Uwch Gynghrair, am £2.8 miliwn.

Ym 1997, symudodd eto, i Fulham dan reolaeth Kevin Keegan am £1.9 miliwn, y ffi uchaf a dalwyd erioed gan y clwb am chwaraewr ar y pryd.

Yn fuan fe'i penodwyd yn gapten y clwb, gan helpu Fulham i ennill pencampwriaeth yr Ail Adran ac yna dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair dan arweiniad Jean Tigana.

Cyhoeddodd ei ymddeoliad fel chwaraewr ym mis Hydref 2002 ar ôl iddo dorri ei goes mewn damwain car ac, yn yr un mis, ymunodd â staff hyfforddi Fulham o dan Tigana.

Cafodd ei enwi'n rheolwr parhaol Fulham ym mis Mai 2003, ac ef oedd rheolwr ieuengaf yr Uwch Gynghrair ar y pryd.

Ym mis Ionawr 2012, fe'i penodwyd yn rheolwr tîm cenedlaethol Cymru ac, ym mis Hydref 2015, cadarnhawyd bod Cymru wedi cymhwyso ar gyfer twrnamaint Ewropeaidd 2016 UEFA, gan olygu bod Coleman wedi arwain Cymru i'w twrnamaint rhyngwladol cyntaf ers 1958.

Roedd cymhwyso ar gyfer Ewrop 2016 yn gamp enfawr ar ei ben ei hun - ond llwyddodd Cymru i ragori ar ddisgwyliadau pawb drwy ennill lle yn y rownd gynderfynol.  

Uchafbwynt yr ymgyrch hon oedd buddugoliaeth 3-1 anhygoel yn y rownd gogynderfynol yn erbyn Gwlad Belg, sef ail dîm orau'r byd. 

Ar y pryd, meddai Gary Lineker: "Waw.  Am berfformiad anhygoel. Un o'r perfformiadau gorau yn hanes pêl-droed Prydain."

Ym mis Hydref 2016, dyfarnwyd rhyddid Abertawe iddo, braint a roddwyd hefyd i'r chwaraewr pêl-droed Mel Nurse a dderbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2015.

Ym mis Rhagfyr 2016, derbyniodd Chris Coleman Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru am iddo arwain ei dîm i rownd gynderfynol Ewrop 2016.

Ym mis Ionawr eleni derbyniodd OBE am ei wasanaethau i bêl-droed yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Wrth dderbyn ei radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, meddai Mr Coleman: "Mae'n bleser ac yn anrhydedd mawr derbyn y gydnabyddiaeth hon gan Brifysgol Abertawe.

"Mae'n golygu cymaint bod y gydnabyddiaeth yn cael ei chynnig gan fy ninas enedigol.

"Rwy'n derbyn hon ar ran pob aelod o'm teulu a'm holl ffrindiau sydd wedi fy helpu i lwyddo yn y proffesiwn a ddewisais. Diolch yn fawr."

Meddai Mr Ciborowski: "Bydd cyrraedd Ewrop 2016 ynddo ei hun yn sicrhau lle Chris Coleman a'i dîm yn hanes chwaraeon. 

"Yn wir, mae Chris Coleman wedi bod yn ysbrydoliaeth i gefnogwyr pêl-droed ac i bawb sy'n uniaethu â Chymru; gallwn ni yn Abertawe fod yn arbennig o falch o'i alw'n un ohonom ni.  Mae'n anrhydedd gennyf gyflwyno'r dyfarniad hwn iddo."    

Rhannu |