Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ionawr 2017

Strategaeth Iaith y Miliwn: 'dim hygrededd' heb dargedau Addysg Gychwynnol Athrawon

Mae mudiad iaith wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru na fydd hygrededd gan strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru oni osodir targedau clir blynyddol i gynyddu'r nifer o athrawon newydd-hyfforddedig sy'n gallu dysgu drwy'r iaith.

Daw'r sylwadau wedi i Gomisiynydd y Gymraeg ddatgan bod rhaid cymryd camau 'radical' ym maes addysg er mwyn cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth iaith pum mlynedd newydd ym mis Mawrth eleni.

Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg seminar ynglŷn â chynllunio'r gweithlu addysg cyn y Nadolig, gydag arbenigwyr yn y maes: un o'r prif gasgliadau oedd bod angen i'r Llywodraeth osod targedau iaith blynyddol ar gyfer darparwyr addysg gychwynnol athrawon.    

Mewn llythyr at y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, mae Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, yn dweud:  " … o'r drafodaeth gyda'ch swyddogion am gasgliadau'r seminar, mae'n glir bod angen arweiniad gwleidyddol gennych fel Gweinidog a'ch cyd-Weinidogion ar rai materion.

"Gofynnaf felly i chi gadarnhau ... y bydd y Llywodraeth yn gosod targed blynyddol ar ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghanran a niferoedd y newydd-hyfforddedig sy'n medru dysgu drwy'r Gymraeg ...  

"Mae ein barn yn ddiamwys: ni fydd ddim hygrededd gan strategaeth iaith y Llywodraeth os nad yw'n gosod targedau blynyddol ar gyfer cynyddu'r canran sy'n gadael addysg gychwynnol athrawon gyda'r gallu i ddysgu drwy'r Gymraeg.

"Mae'r cam hwnnw'n un gwbl sylfaenol a chreiddiol i'r strategaeth iaith: ni allwn gefnogi strategaeth sydd ddim yn gweithredu ar y targed cadarn penodol hwnnw."

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n cytuno gyda Meri Huws bod angen chwyldro yn y byd addysg, ac yn benodol bod angen targedau blynyddol pendant er mwyn cynyddu'r ganran o athrawon newydd sy'n gallu, ac yn, dysgu drwy'r Gymraeg.

"Mae'r Llywodraeth wedi defnyddio'r rhethreg iawn, ond nawr y cwestiwn mawr yw a ydyn nhw'n fodlon cymryd y camau dewr a phendant ymlaen.

"Rydyn ni wedi cyhoeddi pum dogfen sy'n amlinellu sut i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y miliwn – does dim esgus gan y Llywodraeth i beidio â gweithredu."  

Llun: Toni Schiavone

Rhannu |