Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Ionawr 2017

Pencampwraig beicio mynydd y byd yn agor campfa newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae pencampwraig beicio mynydd y byd Rachel Atherton wedi agor campfa newydd Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r adnodd newydd yn fuddsoddiad o £250,000 ac yn cynnig y cyfarpar cardio diweddaraf ac offer cryfhau a chyflyru wedi ei ddarparu gan Matrix Fitness.

Drwy gyfrwng y dechnoleg rithwir ryngweithiol ddiweddaraf, bydd defnyddwyr Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth yn gallu mynd i redeg yn y Sahara, beicio yn yr Alpau neu ddringo adeilad talaf yn y byd yn Dubai.

Wrth siarad yn yr agoriad swyddogol a gynhaliwyd heddiw, Dydd Mawrth 10 Ionawr, dywedodd Rachel Atherton ei bod wrth ei bodd gyda'r offer newydd a’i bod yn bwriadu defnyddio ei haelodaeth Platinwm o Ganolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth* i'r eithaf.

"Mae'n wych cael y cyfleuster anhygoel hwn mor agos at gartref, mae popeth sydd ei angen arnaf yma ac rwy’n bwriadu treulio llawer o amser yma," dywedodd.

Mae Rachel sy’n byw yn Nyffryn Dyfi, wedi ennill mwy o wobrau nag unrhyw feiciwr mynydd arall o Brydain yn hanes y gamp.

Yn ogystal â naw teitl Cenedlaethol y DU mae wedi ennill Pencampwriaeth Lawr Mynydd bum gwaith, pencampwriaeth Cwpan y Byd bum gwaith, pencampwriaeth Ewrop dwywaith ac mae’n berchennog balch 33 Cwpan y Byd.

Ar hyn o bryd mae’n mwynhau seibiant yn dilyn rhediad a’i gwelodd yn ennill 13 ras Cwpan Byd yn olynol.

Ymunodd yr Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, â Rachel ar gyfer yr agoriad. Cwblhaodd yr Athro Grattan ei driathlon IronMan cyntaf ym Medi 2016.

Dywedodd yr Athro Grattan: "Rwy'n falch iawn bod Rachel Atherton wedi ymuno â ni heddiw i agor ein campfa ar ei newydd wedd.

"Bûm yn hyfforddi’n helaeth yn y Ganolfan Chwaraeon ar gyfer fy her IronMan ychydig fisoedd yn ôl, ond mae gwybod bod rhywun o galibr Rachel hefyd yn dewis defnyddio ein cyfleusterau ni at ei dibenion hyfforddi yw gymeradwyaeth yn wir.

"Mae'n brawf pellach fod Aberystwyth yn cynnig amgylchedd eithriadol ar gyfer astudio, gweithio a byw.

"Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad i wella'r cyfleusterau rydym yn eu cynnig, nid yn unig i'n myfyrwyr a staff, ond hefyd i aelodau o'r gymuned leol, ac rwy'n gwahodd pawb i wneud y gorau o'r cyfle.”

Cyfleusterau newydd

Mae'r cyfleusterau newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig y diweddaraf mewn technoleg campfa a hyfforddiant.

Bydd rhedwyr a beicwyr yn gallu dilyn llwybrau yma mha bynnag le yn y byd gan ddefnyddio technoleg rithwir.

I’r rheiny sy’n awyddus i osod her i’w hunain, mae yna raglenni sy’n eu caniatáu i ddringo rhai o adeiladau amlyca’r byd, gan gynnwys Tŵr Eiffel a’r adeilad talaf yn y byd, y Burj Khalifa yn Dubai.

Gall defnyddwyr hefyd ddefnyddio'r ap hyfforddiant personol SbortAber ynghyd ag apiau eraill fel Strava, Map My Fitness a Fitbit.

Byddant hefyd yn gallu gwrando ar restrau cerddoriaeth bersonol sydd ar eu ffonau symudol er mwyn cael y gorau o bob sesiwn.

"Mae'r cyfleusterau newydd yma yn cynnig rhywbeth i bawb, o ddechreuwyr i athletwyr elitaidd, selogion cadw'n heini profiadol a’r rhai sydd angen ymarfer corff am resymau iechyd," meddai Darren Hathaway, Rheolwr Cyffredinol Canolfan Chwaraeon y Brifysgol.

"Mae'r buddsoddiad hwn wedi ein galluogi i roi sylw arbennig i sut mae’r offer wedi ei osod, gan sicrhau bod pob agwedd ar y profiad o ddefnyddio'r gampfa yn fwy cyfeillgar a chroesawgar, a bod y dechnoleg wedi ei chynllunio i sicrhau bod ymarfer corff yn fwy pleserus yn sgil cysylltu, symbylu a herio defnyddwyr," ychwanegodd Darren.

Mae Canolfan Chwaraeon y Brifysgol yn trefnu dros 60 o ddosbarthiadau cadw'n heini bob wythnos, o Pilates gofal cefn a ioga i hyfforddiant cylched, Zumba a Hyfforddiant Dwysedd Uchel HIIT sy’n boblogaidd iawn ar hyn o bryd.

Mae staff y Ganolfan Chwaraeon hefyd yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu sesiynau arbennig ar gyfer cleifion sydd â phroblemau’r galon.

Mae rhagor o wybodaeth am Ganolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys aelodaeth, cyrsiau ac oriau agor ar gael ar-lein https://www.aber.ac.uk/en/sportscentre/about-us

*Mae Aelodaeth Platinwm yn cynnig defnydd diderfyn o'r holl wasanaethau a'r cyfleusterau a gynigir yn y Ganolfan Chwaraeon. Mae rhagor o fanylion am aelodaeth ar gael yma https://www.aber.ac.uk/en/sportscentre/membership

Llun: Pencampwraig beicio lawr mynydd y byd Rachel Atherton yn agor campfa newydd Prifysgol Aberystwyth yng nghwmni Rheolwr y Ganolfan Chwaraeon, Darren Hathaway (chwith) a’r Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro’r Brifysgol.

Rhannu |