Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ionawr 2017

Mae mynydd iâ sydd chwarter maint Cymru yn barod i ymrannu o Antarctica, yn ôl gwyddonwyr Prifysgol Abertawe

Mae mynydd iâ enfawr ag arwyneb sy'n cyfateb i chwarter maint Cymru ar fin torri'n rhydd o ysgafell yr Antarctig.

Dim ond haen o iâ 20km o hyd sy'n atal y màs 5000 km sgwâr rhag arnofio i ffwrdd, ar ôl i hollt sydd wedi bod yn tyfu'n gyson ers mwy na degawd ehangu'r mis diwethaf.

Rhagwelir y bydd y mynydd iâ, sydd ar yr ysgafell iâ fawr fwyaf gogleddol yn yr Antarctig, o'r enw Larsen C, yn un o'r 10 mynydd iâ mwyaf erioed i dorri'n rhydd.

Dywedodd yr Athro Adrian Luckman, gwyddonydd yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe ac arweinydd Prosiect Midas y DU: "Ar ôl rhai misoedd o gynyddu'n gyson fesul ychydig ers y digwyddiad diwethaf, yn sydyn, tyfodd yr hollt 18km ymhellach yn ystod ail hanner mis Rhagfyr 2016.

"Dim ond 20km o iâ sydd bellach yn cysylltu mynydd iâ sy'n cyfateb i chwarter maint Cymru â'r ysgafell iâ a'i ffurfiodd."

Bydd gwahanu'r mynydd iâ o'r ysgafell iâ yn golygu "newid sylfaenol i dirwedd y Penrhyn Antarctig" a gallai achosi i ysgafell iâ Larsen C hollti ar raddfa ehangach ychwanegodd.

"Bydd yn syndod mawr i mi os nad yw hyn yn digwydd dros y misoedd nesaf," dywedodd yr Athro Luckman.

Mae ysgafellau iâ yn eangderau o iâ enfawr, cannoedd o fetrau o drwch, ar ymyl rhewlifau.

Mae gwyddonwyr yn ofni y bydd colli ysgafelloedd iâ yn ansefydlogi rhewlifau mewndirol y cyfandir iâ. Ac, er na fyddai'r ffaith bod y mynydd iâ wedi torri'n rhydd yn cyfrannu at gynnydd yn lefelau'r môr, byddai colli iâ rhewlifol yn achosi iddynt gynyddu.

Meddai Dr Martin O'Leary, sydd hefyd yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n golygu y bydd yr ysgafell iâ gyfan yn llai sefydlog. Pe bai'n cwympo, ni fyddai unrhyw beth yn dal y rhewlifau i fyny a byddent yn dechrau llifo'n eithaf cyflym."

Ychwanegodd Dr O'Leary fod rhewlifau'n ymrannu'n broses naturiol sy'n digwydd pob degawd mwy neu lai ac nad yw'n cael ei hachosi gan newid yn yr hinsawdd ond, serch hynny, gallai chwalu ysgafell iâ fawr gyflymu'r broses o doddi iâ rhewlifol mewn cysylltiad â chefnforoedd sy'n cynhesu.

Mae sawl ysgafell iâ wedi hollti yn rhannau gogleddol yr Antarctig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Larsen B a chwalodd yn 2002.

Pan fydd y darn enfawr o iâ yn torri'n rhydd o'r diwedd, mae'r gwyddonwyr yn rhagweld y bydd yn symud yn raddol allan i'r môr gan golli darnau bach wrth fynd. "Byddai'n ddigwyddiad dramatig iawn pe byddech yn sefyll nesaf ato, ond nid yn y cynllun mawr," meddai Dr O'Leary.

Rhannu |