Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ionawr 2017

Plaid Cymru Ifanc yn mynd ar flaen y gad

Mae mudiad ieuenctid Plaid Cymru, Plaid Cymru Ifanc, yn edrych at fynd ar ‘flaen y gad’ wrth edrych ymlaen at ddyfodol gwleidyddol Cymru.

Bydd y gwaith yn dechrau gyda dwy ysgol aeaf arbennig fydd yn cael eu cynnal yng ngogledd a de Cymru'r mis yma.

"Bu 2016 yn flwyddyn anodd i nifer o bobl ifanc wleidyddol flaengar," meddai cadeirydd Plaid Cymru Ifanc, Emyr Gruffydd.

"Mae'n bwysig felly ein bod ni'n hyfforddi ein gilydd ac yn gwella ein dealltwriaeth o'r sialensiau dyrys sy'n ein hwynebu fel cenedl.

"Byddwn yn trafod sut mae bwrw ati i adeiladu ein cenedl yn yr amgylchiadau anodd sydd ohonynt.

"Bydd cyfle i bawb ofyn eu cwestiynau i’r panel a chyfrannu at drafodaeth agored."

Bydd dwy ysgol aeaf yn cael eu cynnal – un ym Mangor a’r llall yng Nghastell Nedd. Mae’r digwyddiad am ddim ac yn agored i bobl ifanc.

Ymhlith y sesiynau yn ystod y diwrnod bydd edrych ar hanes y mudiad ieuenctid yng Nghymru a’r gwersi gellir ei dysgu o fudiadau tebyg mewn rhannau eraill o Ewrop.

Bydd edrych hefyd ar bwysigrwydd ffeminyddiaeth ym mudiad ieuenctid cenedlaethol Cymru gan olrhain hanes merched o fewn y mudiad.

Ym Mangor bydd trafodaeth banel fydd yn cynnwys cyfraniadau gan Liz Savile Roberts AS, Sian Gwenllian AC a’r cynghorydd Mair Roberts.

"Rhaid i ni fod yn ffres ac ar flaen y gad wrth i ni sefyll mwy o ymgeiswyr Plaid Ifanc nag erioed yn etholiadau lleol 2017 ac mae'r Ysgol Aeaf yn ffordd arbennig i ddechrau ar y gwaith," ychwanegodd Emyr Gruffydd.

Bydd ysgol aeaf Plaid Cymru Ifanc yn cael ei gynnal ym Mangor yn ystafell Eric Sunderland ym mhrif adeilad Prifysgol Bangor am 11 o’r gloch y bore, dydd Sadwrn, 14 Ionawr. Bydd yr ail ysgol aeaf yn cael ei gynnal ym Mharc y Gnoll yng Nghastell Nedd am 10.30 o’r gloch y bore, dydd Sadwrn, 28 Ionawr. 

Llun:  Pwyllgor cyfredol Plaid Cymru Ifanc

Rhannu |