Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ionawr 2017

£80m ar gyfer cronfa triniaethau newydd

Mae cronfa triniaethau newydd Llywodraeth Cymru wedi agor, gydag £80 miliwn yn mynd i fod ar gael dros dymor y llywodraeth hon i gyflymu mynediad at y meddyginiaethau diweddaraf un, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Bydd cyfanswm o £12 miliwn yn cael ei ryddhau i fyrddau iechyd ar unwaith, gyda £4 miliwn arall ar gael yn ddiweddarach.

Bydd y gronfa'n darparu £16 miliwn o gymorth ychwanegol yn flynyddol i helpu byrddau iechyd Cymru i gyflymu mynediad at y meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).    

Dan y system newydd, bydd gofyn i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau bod meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan NICE neu AWMSG ar gael o fewn deufis i ddyddiad cyhoeddi'r canllawiau terfynol, gan fyrhau'r cyfnod o draean.

O ran argymhellion NICE, bydd llywodraeth Cymru yn cymryd cam pellach. Bydd disgwyl i fyrddau iechyd nawr gyflwyno meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan NICE wrth iddynt gyhoeddi'r canllawiau terfynol am y tro cyntaf, yn hytrach nag aros am y canllawiau Arfarnu Technoleg terfynol sy'n cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod apêl.
 

Gyda'i gilydd, mae hyn yn golygu y bydd yr holl feddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan NICE ac AWMSG yn y dyfodol ar gael hyd at wyth wythnos yn gynt. 

Ers mis Ebrill diwethaf, mae NICE ac AWMSG wedi argymell 55 o feddyginiaethau newydd. 

Mae'r meddyginiaethau hynny'n trin amrywiaeth eang o glefydau, gan gynnwys arthritis gwynegol, canser, epilepsi, clefyd y galon a'r Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV).  

Mae pob un o'r clefydau hynny'n fygythiad i fywyd a/neu yn gwanychu.

Bydd y £12 miliwn sy'n cael ei ryddhau i fyrddau iechyd drwy'r gronfa triniaethau newydd yn helpu i ddarparu'r meddyginiaethau sydd wedi'u hargymell gan NICE ac AWMSG yn gyflym ac yn gyson. 
 

Dywedodd Vaughan Gething: "Bydd ein cronfa triniaethau newydd yn helpu pobl sy'n dioddef o gyflyrau sy'n bygwth eu bywydau i gyrraedd at feddyginiaethau newydd arloesol yn gyflym.

"Mae meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn cael eu canfod, eu datblygu a'u profi bron yn wythnosol, gan gynnig gobaith am iachâd neu well ansawdd bywyd i bobl ag amrywiol glefydau.

"Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i gael gwared â'r ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer triniaethau newydd yn y dyfodol, ac yn helpu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i baratoi cynlluniau addas i gyflwyno meddyginiaethau newydd.

"Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno meddyginiaethau newydd ar sail tystiolaeth a chyngor arbenigol NICE ac AWMSG.

"Bydd sawl un o'r meddyginiaethau arloesol hyn yn cynnig cam sylweddol ymlaen i drin clefydau lle nad oedd fawr o opsiynau o'r blaen, neu hyd yn oed dim triniaeth o gwbl ac eithrio lleddfu'r symptomau. 

"Os yw'r feddyginiaeth newydd sy'n cael ei hargymell yn briodol ar gyfer claf, rydyn ni'n disgwyl iddo fedru cael mynediad at y driniaeth honno mor gyflym â phosib, ac o fewn deufis."

"Rwy'n falch iawn i ni fedru symud ymlaen â'r gronfa hon. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gan sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn y sefyllfa orau bosib i ddarparu'r cyffuriau diweddaraf sy'n cael eu cymeradwyo.”
 

Rhannu |