Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Awst 2011

Poeni am ddiwygio budd-daliadau lles

MAE Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau er mwyn mynegi pryderon sylweddol am y newidiadau arfaethedig i'r system budd-daliadau lles.

Mae'r Cynghorydd Meryl Gravell wedi gweithredu ar ran y Cyngor yn sgil cynlluniau'r Llywodraeth, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r cynllun budd-daliadau tai.

Yn y llythyr at Iain Duncan Smith, dywedodd y Cynghorydd Gravell: “Yn naturiol ddigon i Awdurdod Unedol fel Sir Gaerfyrddin, sydd â phoblogaeth sy'n heneiddio yn ogystal ag ambell ardal lle mae llawer o amddifadedd a diweithdra, y newidiadau i'r cynllun budd-daliadau tai sy'n peri'r pryder mwyaf ar hyn o bryd.

“Prin bod pryderon y Cyngor wedi eu lleddfu gan asesiad yr Adran Gwaith a Phensiynau, a ddaeth i'r casgliad y byddai'r newidiadau hyn yn debygol o achosi cynnydd yn nifer y preswylwyr ag ôl-ddyledion rhent a’r preswylwyr a gâi eu troi allan o’u cartrefi, ynghyd â nifer y bobl ddigartref.

“Nid oes amheuaeth nad yw'r cynllun budd-daliadau presennol yn hynod gymhleth a chostus, a bydd llawer yn cytuno bod angen cynnal adolygiad llawn a chynhwysfawr ohono. Fodd bynnag yr hyn sy'n peri gofid mawr iawn yw ystod a graddfa'r toriadau a hynny mewn cyfnod cymharol fyr, ynghyd â goblygiadau'r prinder presennol o gartrefi eraill sy'n addas ac yn fforddiadwy.

Hefyd diystyrodd y Cynghorydd Gravell yr awgrym y gallai cynghorau roi cymorth ariannol, oherwydd trwy wneud hynny dim ond hyn a hyn o gymorth yn y tymor byr y gellid ei roi, a hynny i ganran fechan o'r bobl yr effeithid arnynt.

Ychwanegodd y Cynghorydd Gravell: “Wedi'r cyfan, y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau fydd yn teimlo effaith hyn. Bydd y gostyngiadau'n filiynau o bunnoedd yn Sir Gaerfyrddin, a byddant yn effeithio ar bobl fregus, yr economi leol, a'r awdurdod lleol. O ganlyniad, gofynnaf ichi nodi pryderon y Cyngor a rhoi'r ystyriaeth briodol iddynt.”

Rhannu |