Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Ionawr 2017

Cynllun Llysgenhadon Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yn mynd o nerth i nerth

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon unwaith eto eleni er mwyn ceisio annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel addysg uwch.

Bydd y 21 llysgennad, sydd wedi’u lleoli mewn saith prifysgol ar hyd a lled Cymru yn dechrau ar eu gwaith fis yma.

Eu prif rôl fydd ceisio dwyn perswâd ar ddisgyblion ysgol i ddilyn rhan o’u hastudiaethau prifysgol trwy’r Gymraeg a chyflwyno’r manteision a ddaw yn sgil hynny.

Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau mewn blog newydd sbon.

Ochr yn ochr â hyn byddant yn cynnal blog Llais y Llysgennad sy’n rhoi darlun o fywyd myfyriwr cyfrwng Cymraeg ar ffurf lluniau, fideos a llawer mwy.

Gwenllian Mair Jones o Lanelli sy’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd oedd un o’r rhai cyntaf i gyfrannu, ac roedd hi wrth ei bodd o gael y cyfle i astudio trwy’r Gymraeg yn y brifddinas ar ôl derbyn ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun y Strade.

Meddai: ‘‘Rwy’n falch iawn o’r iaith, a gan fy mod wedi derbyn fy addysg drwy’r Gymraeg hyd at nawr roedd yn gam naturiol i mi astudio'r pwnc gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae gallu cael mynediad at bwnc drwy gyfrwng dwy iaith yn gwneud y dysgu’n haws. Hoffwn barhau i fyw yng Nghymru yn y dyfodol a bydd y gallu i weithio yn y Gymraeg yn hynod fanteisiol.’’

Bydd yn rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â Chynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg a sôn am y cyfleoedd mai astudio’n Gymraeg yn eu cynnig fel yr eglura Rhiannon Carys Williams o Lantrisant sy’n astudio Sŵoleg gyda Herpetoleg ym Mhrifysgol Bangor: ‘‘Rwy’n annog unrhyw fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr i ymgeisio am yr ysgoloriaethau mae’r Coleg yn cynnig.

"Mae astudio’n Gymraeg yn cynnig cyfleoedd holl bwysig i godi hyder a gwella dy sgiliau dwyieithog. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd astudio gwell a mwy o gefnogaeth i ti wrth iti astudio dy gwrs.’’

Rhannu |