Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Ionawr 2017

Rhoi caniatâd ar gyfer lleoedd parcio ychwanegol i staff yn Ysbyty Glangwili

Bydd 24 o leoedd parcio ychwanegol yn cael eu creu ar gyfer staff yn Ysbyty Glangwili, er mwyn cynorthwyo’r ymdrechion parhaus i leddfu pwysau o ran y meysydd parcio.

Mae’r cais cynllunio ar gyfer y lleoedd wedi cael ei gymeradwyo, a disgwylir y bydd y lleoedd hyn ar gael o fis Ebrill, yn ychwanegol at y 40 o leoedd parcio newydd a grëwyd ym mis Ebrill 2016 ar gyfer cleifion ac ymwelwyr.

Mae nifer o gamau eraill yn cael eu cymryd i wella cyfleusterau parcio yn yr ysbyty, gan gynnwys rhyddhau 38 o leoedd parcio, yr arferid eu neilltuo ar gyfer ymgynghorwyr, i unrhyw un eu defnyddio ym mis Tachwedd 2016, a rheolaeth fwy caeth dros y maes parcio cleifion allanol, er mwyn sicrhau bod y lleoedd yn cael eu defnyddio er budd cleifion.

Lle bynnag y bo modd, anogir staff, cleifion ac ymwelwyr yn gryf i ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio sydd ar gael ar hyn o bryd o faes parcio Nant-y-ci.

Yn ôl Gareth Skye, Rheolwr Cludiant a Theithio Cynaliadwy Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n newyddion gwych ein bod yn gallu bwrw ymlaen â 24 o leoedd parcio ychwanegol ar gyfer staff yn Ysbyty Glangwili.

“Rydym yn rhoi ystyriaeth o ddifrif i faterion yn ymwneud â pharcio ar safle Ysbyty Cyffredinol Glangwili, ac mae’r lleoedd ychwanegol hyn yn rhan o’n strategaeth i wella meysydd parcio – strategaeth y byddwn yn dal ati i’w rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

“Mae rhan o’r strategaeth hon yn cynnwys y posibilrwydd o gyflwyno gwasanaeth parcio a theithio ychwanegol yn archfarchnad Morrisons.

"Mae hyn yn dal i gael ei drafod ar hyn o bryd, ac er nad oes dim wedi’i gadarnhau eto, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau i’n staff ac i’r cyhoedd yn ehangach ar y cyfle cynharaf posibl.”

Rhannu |