Mwy o Newyddion
BBC Radio Cymru yn dweud 'diolch o galon' gyda gwledd o gerddoriaeth ar ddiwrnod Santes Dwynwen
Ar Ddiwrnod Santes Dwynwen bydd BBC Radio Cymru yn gwahodd gwrandawyr i fwynhau gwledd o gerddoriaeth yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghaerdydd - cartref Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Bydd Diwrnod Diolch o Galon yn rhan o flwyddyn o ddathliadau Radio Cymru yn 40 oed eleni - ac yn gyfle i ddiolch i’r gwrandawyr ac i’r rheiny sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr orsaf er 1977.
Darlledir yr achlysur yn fyw ar Radio Cymru rhwng 10am a 5pm, a bydd rhai o leisiau mwyaf cyfarwydd Radio Cymru yn cyflwyno.
Mae cerddoriaeth Gymraeg wrth galon Radio Cymru a bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a rhai o artistiaid gorau Cymru yn perfformio yn y digwyddiad unigryw ar Ionawr 25.
Yn ogystal â rhai o’r hen glasuron, sy’n rhan o stori Radio Cymru, mae’r cerddor John Quirk wedi ysgrifennu trefniannau newydd i’r gerddorfa ar gyfer yr achlysur.
Dywedodd Dyl Mei, cynhyrchydd rhaglen Tudur Owen, sydd wedi dewis cerddoriaeth ar gyfer y diwrnod: “Dwi erioed wedi gweld cerddorfa yn fyw o’r blaen.
"Felly bydd hi’n bleser pur clywed un go iawn y BBC yn chwarae rhai o fy newisiadau personol.
"Mae o’n neud i fi deimlo fel Mozart - er ’mod i dal i edrych fel Pavarotti!”
Ymhlith yr uchafbwyntiau, bydd Ywain Gwynedd yn canu Sebona Fi - hoff gân gwrandawyr Radio Cymru yn siart #40Mawr yr orsaf yn 2016.
Bydd Alys Williams yn perfformio Pan Fo’r Nos Yn Hir ac fe fydd Ywain Gwynedd yn canu Diolch Yn Fawr, un o glasuron Meic Stevens, gyda Chôr Radio Cymru a Chorws y BBC.
Dywedodd Ywain Gwynedd: “Mae’n bleser cael bod yn rhan o’r diwrnod.
"Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i gael cyfleon gwych gan Radio Cymru dros y blynyddoedd ac mae rôl yr orsaf yn hybu bandiau ac artistiaid ifanc yn holl bwysig.
"Heb gerddoriaeth gyfoes a pherthnasol, does dim posib i’r iaith Gymraeg ffynnu.
"Radio Cymru yw’r platfform mwyaf sydd ganddon ni i’r gerddoriaeth yna sydd, diolch byth, yn fwy toreithiog na fuodd hi erioed.”
Bydd y gantores a’r gyflwynwraig Shân Cothi yn canu Calon Lân.
Y tro diwethaf iddi ganu hon yn Neuadd Hoddinott oedd yn 2015, fel rhan o ddeuawd gydag Andres Evans ym Mhatagonia.
Gosodwyd record byd newydd ar Radio Cymru wrth i ddeuawd gael ei chanu gan gantorion oedd 7,000 o filltiroedd ar wah?n.
Bydd Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd yn agored i wrandawyr Radio Cymru sy’n dymuno bod yn rhan o’r dathliadau.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni ar Ddiwrnod Santes Dwynwen i fwynhau diwrnod i’w gofio yn Neuadd Hoddinott.
"Does dim angen tocynnau ac mae cyfle i bobl gyrraedd unrhyw bryd yn ystod y dydd.
"Hoffwn ddal ar y cyntaf o nifer o gyfleon fydd eleni, i ddiolch yn fawr i’r rheiny sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr orsaf.
"Ac mae’r diolch mwya, wrth gwrs, i’n cynulleidfa sy’n cadw cwmni i ni bob dydd. Diolch o galon!”
Llun: Ywain Gwynedd