Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Berlin-Archaeopteryx.jpg)
Aderyn cynhanesyddol yn hedfan unwaith eto yn Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal arddangosfa 'Etifeddiaeth Jwrasig' yn yr Hen Goleg.
Canolbwynt yr arddangosfa fydd yr Archaeopteryx gyda'i adenydd sy’n fetr o led, ei grafangau a’i dannedd miniog.
Mae’n dyddio o'r cyfnod Jwrasig hwyr, tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a chredir taw dyma’r ddolen gyswllt rhwng dinosoriaid a'r aderyn modern.
Bydd yr arddangosfa sydd ar fenthyg o Amgueddfa Cymru, ac a fydd hefydd yn cynnwys ffosilau o gasgliadau'r Brifysgol, ac wedi ei hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (CTL), yn agor ar y 14 Chwefror ac yn parhau tan y 21 Ebrill, ac yn cynnwys hanner tymor a gwyliau’r Pasg.
Mae'r Brifysgol hefyd yn gweithio'n agos gydag Amgueddfa Ceredigion i ddarparu sesiynau ‘cyffwrdd â threftadaeth’ ar gyfer teuluoedd.
Dywedodd Eva De Visscher, awdur y cais yn Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal arddangosfa mor hynod o ddiddorol yn yr Hen Goleg.
"Diolch i gefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd pobl o bob oed yn gallu dysgu am dreftadaeth naturiol drwy gyfrwng tri chasgliad unigryw sy’n dyddio'n ôl i'r cyfnod Jwrasig, a byddant i'w gweld gyda'i gilydd am y tro cyntaf."
Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni: “Mae arddangosfeydd teithiol fel hyn yn nodwedd bwysig o gynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol i roi bywyd newydd i’r Hen Goleg a darparu adnodd gwych i arddangos cyfleoedd dysgu, ymchwil a menter a fydd yn ysbrydoli defnyddwyr ac ymwelwyr a rhoi hwb i'r economi.”
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru: "Rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar nifer o brosiectau ymchwil a digwyddiadau yn y gorffennol ond hon fydd ein harddangosfa gyntaf ar y cyd, ac rydym yn falch iawn o hyn."
Yn ogystal, bydd y Brifysgol yn ychwanegu pedwar cast o ddinosoriaid pluog, a nifer o gastiau o greaduriaid cynhanesyddol eraill, bywyd gwyllt morol, a llystyfiant a roddwyd gan y botanegydd arloesol Agnes Arber.
Hefyd, bydd Dr Ian Scott a'r Athro emeritws Richard Hinchliffe o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a Dr Bill Perkins o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn darparu cynnwys ychwanegol.
Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth CTL yng Nghymru: "Diolch i gyllid gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect hwn wedi creu cyfle newydd i sefydliadau i weithio gyda'i gilydd er budd pobl leol a thwristiaid.
"Rydym yn gwybod bod yna lawer o ddiddordeb mewn treftadaeth Jwrasig ac mae’r arian hwn yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael cyfle i weld a dod i wybod am gasgliadau pwysig na fyddai fel arall ar gael yn Aberystwyth. Mae CDL yn falch iawn i roi ei chefnogaeth.”
Cynhelir yr arddangosfa diolch i grant o bron i £9,800 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, a derbyniwyd arian cyfatebol ar ffurf rhodd hael o £5,000 gan Dr Terry Adams, daearegwr a chyn-fyfyriwr y Brifysgol, a £3,700 gan Gronfa Estyn Allan yr Adran Ffiseg.
Llun: Sbesimen Berlin o’r Archaeopteryx ddarganfuwyd yn 1876. Museum für Naturkunde, Berlin, Yr Almaen.