Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Ionawr 2017

Cefnogi dysgwyr i fwynhau cynhyrchiad newydd Cymraeg o Macbeth

Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi bod pecyn i ddysgwyr ar gael, wedi’i seilio ar ee cynhyrchiad nesaf, Macbeth.

Crëwyd y pecyn i ddysgwyr gan Nant Gwrtheyrn, mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru gyda chymorth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth a gemau i ddysgwyr a chanllaw ar wahân ar gyfer tiwtoriaid.

Mae’r deunydd yn addas ar gyfer dosbarthiadau Uwch a Hyfedredd ac yn cynnwys gweithgareddau i’w cyflawni cyn gweld y ddrama, a rhai ar ôl ei gweld.

Bydd modd lawrlwytho’r pecyn i ddefnyddio yn y dosbarth oddi ar wefan y tri sefydliad.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’n bwysig iawn bod pob agwedd ar ein diwylliant cyfoes yn agored i’r rhai hynny sy’n dysgu’r Gymraeg.

"Dyna pam mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

"Mae’r gwaith o lunio pecynnau i helpu dysgwyr fwynhau cynyrchiadau yn agor drws arall i’n dysgwyr ni.”

Meddai Mair Saunders, Prif Reolwr Canolfan Nant Gwrtheyrn: “Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth yr ydym wedi ei chynnal gyda’r Theatr Genedlaethol yma yn Nant Gwrtheyrn ers tro drwy gynnal gwersi ar gyfer dysgwyr a llunio pecynnau sy’n cydfynd â’r cynyrchiadau.

"Pleser yw cael cyd weithio ar gynllun sydd yn galluogi’r rhai hynny sydd yn dysgu’r Gymraeg i fwynhau arlwy y Theatr Genedlaethol.”  

Meddai Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae cydweithio â phartneriaid sy’n arbenigwyr yn eu maes yn bwysig iawn i ni.

"Edrychwn ymlaen at barhau’r cydweithio gyda Nant Gwrtheyrn a dechrau partneriaeth hir dymor gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn sicrhau bod ein cynyrchiadau’n berthnasol i bawb."

Bydd perfformiadau byw o Macbeth yng Nghastell Caerffili 7 – 18 Chwefror, a hefyd, drwy fenter newydd gyffrous Theatr Gen Byw, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu’n fyw i ganolfannau ar draws Cymru ar 14 Chwefror, gydag ail-ddangosiadau gydag is deitlau Saesneg hyd diwedd Ebrill i ddilyn.  

Rhannu |