Mwy o Newyddion
Cynllun grantiau bach gwerth £40m i ffermwyr
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gweledig, Leslie Griffiths heddiw bod cynllun gwerth £40m ar gael i ffermwyr i’w helpu i leihau eu hallyriannau carbon, i gryfhau eu busnesau ac i wella’u gallu i gystadlu, trwy arallgyfeirio ymhlith pethau eraill,
Roedd sefydlu cynllun grantiau cyfalaf bach i ffermwyr yn ymrwymiad yn Symud Cymru Ymlaen, rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae’r cynllun yn rhan o Gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 a chaiff ei ariannu’n rhannol trwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £20m yn y cynllun a fydd yn cael ei gyd-ariannu gan y Rhaglen Datblygu Gwledig.
Bydd yn cynnig grant o hyd at £12,000 o gymorth ariannol dros gyfnod o bedair blynedd ar gyfradd o 40% o’r costau.
Bydd ffermwyr o bob rhan o Gymru’n cael cyfle i fuddsoddi mewn rhyw 80 o eitemau sy’n gysylltiedig ag:
- Iechyd, geneteg a pherfformiad anifeiliaid
- Rheoli cnydau
- Defnyddio ynni’n effeithlon
- Defnyddio adnoddau’n effeithlon
- TGCh
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag undebau ffermwyr a phartneriaid eraill i ddatblygu rhestr o eitemau cyfalaf, bob un â’i manyleb a’i chostau safonol.
Mae’r eitemau hyn yn cynnig cyfle i ymgeiswyr i wella perfformiad eu busnes.
Mae’r cynllun yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer amaethyddiaeth a gweledigaeth Amaeth Cymru, Grŵp Partneriaeth y Fframwaith Strategol ar gyfer Amaethyddiaeth, o ddiwydiant llewyrchus a chydnerth sy’n hybu lles Cymru, nawr ac i’r dyfodol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch iawn cael cyhoeddi’r pecyn cymorth hwn o £40m i helpu ffermwyr i weddnewid eu busnesau.
"Roedd yn un o’n prif addewidion yn ein Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen ac rydym am gadw at yr addewid honno.
“Rydym wedi gweithio gydag undebau ffermwyr a phartneriaid eraill i benderfynu sut orau i helpu ffermwyr i wneud hyn a hoffwn ddiolch iddyn nhw am weithio mor glos â ni ar y fenter bwysig hon.
“Rydyn ni’n gweld yr arian hwn fel buddsoddiad yn ein ffermwyr fydd yn dod â buddiannau i Gymru gyfan.
"Bydd yn helpu ffermwyr i weithio mewn ffordd fwy effeithiol ac eco-gyfeillgar ac i wneud eu busnesau’n fwy cystadleuol.
“Mae hwn, yn ddi-os, yn hwb i ffermwyr Cymru ar adeg o ansicrwydd mawr ynghylch y dyfodol yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE.
Bydd y cynllun newydd rwy’n ei gyhoeddi heddiw o help aruthrol i’n ffermwyr wrth iddyn nhw ddechrau meddwl sut i baratoi’u busnesau ar gyfer byd ar ôl Brexit.
“Mae’n hanfodol bwysig mynd ati’n fuan i baratoi cynllun busnes effeithiol ac mae sawl man y gallwch fynd iddo i gael help ar gyfer hyn, gan gynnwys ein rhaglen Cyswllt Ffermio.
"Mae llawer o ffermwyr wedi cael profi’i fanteision dros y blynyddoedd diwethaf.”
Meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: “Mae ein Cyllideb ar gyfer 2017-18 yn cynnig uchelgais a sefydlogrwydd ar adeg ansicr.
"Mae’r arian ychwanegol yn cefnogi’n huchelgais ar gyfer cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy trwy ddod â manteision i unigolion a theuluoedd a thrwy gryfhau cymunedau ledled Cymru.”
Bydd y cyfnod ymgeisio cyntaf yn dechrau ym mis Ebrill a bydd rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ymgeisio yn ymddangos ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cynhelir pleidlais ar y Gyllideb derfynol yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 10 Ionawr.