Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ionawr 2017

Ymchwilydd o Aberystwyth yn teithio i Antarctica

Bydd rhewlifegwr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i Antarctica Ddydd Sadwrn fel rhan o astudiaeth ryngwladol i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bydd yr Athro Neil Glasser yn ymuno â gwyddonwyr o Sweden, yr Unol Daleithiau a Norwy ar gyfer taith saith wythnos i Len Iâ Dwyrain yr Antarctig.

Gyda chefnogaeth Ysgrifenyddiaeth Begynol Sweden, bydd y tîm yn casglu data gwyddonol yn Nhir Dronning Maud er mwyn ail-greu hanes hirdymor sut y bu i’r llen iâ yno deneuo.

Bydd yr Athro Glasser yn casglu samplau o greigiau a’u cludo i’r DU ar gyfer eu dyddio gan ddefnyddio techneg Dyddio yn ôl Arwyneb Niwclid Cosmogenig - Dyddio NC.

"Mae Dyddio NC yn ddull newydd sbon yr ydym yn ei ddatblygu sy'n ein galluogi i fesur faint o amser y mae wyneb y graig wedi bod yn agored – drwy hynny gallwn amcangyfrif pryd y bu i’r iâ deneuo,” dywedodd yr Athro Glasser.

"Bydd y creigiau yn cael eu casglu oddi ar nunatak yn yr ardal, mynyddoedd creigiog rhai cannoedd o fetrau o uchder sy'n torri drwy’r llen iâ.

"Mae'r nunatak yn gweithredu fel trochbrennau amgylcheddol," meddai Glasser. "Bydd y copaon wedi eu dinoethi o eira lawer yn gynt na’r llethrau islaw.

"Dylai samplau a gymerwyd ar wahanol bwyntiau ar lethrau’r nunatak ddweud wrthym pryd y bu i’r rhew gilio.

"Gall Dyddio NC ymestyn yn ôl filiynau o flynyddoedd, ond nid ydym yn disgwyl dod o hyd i samplau mor hen â hynny.

"Maent yn fwy tebygol o rychwantu'r 20,000 o flynyddoedd diwethaf, a’r rhew yn ôl pob tebyg wedi teneuo rhai degau os nad cannoedd o fetrau yn ystod y cyfnod."

Mae'r tîm yn defnyddio cyfuniad o ddelweddau lloeren a mapio yn y maes i nodi'r gwahanol waddodion a thirffurfiau yn yr ardal hon o Antarctica i ddatgelu mwy am newidiadau hanesyddol i’r llen iâ, ei thrwch a’i deinameg.

Bydd data a gesglir yn ystod y daith yn cael ei ychwanegu i fodelau efelychiad cyfrifiadurol sydd wedi'u cynllunio i ddangos sut y gallai haenau iâ fod wedi edrych yn y gorffennol a sut y gallent ymddwyn yn y dyfodol.

Ychwanegodd yr Athro Glasser: "Er mwyn i ni allu ymddiried yn yr hyn y mae'r efelychiadau yn dweud wrthym mae angen data byd go iawn arnom i brofi allbynnau’r model.

"Yn achos ein hastudiaeth o Dir Dronning Maud, bydd y data yr ydym yn ei gael o’r gwaith maes a’r labordy yn cael ei ddefnyddio i brofi a gwella ein model llen iâ, a’n galluogi i leihau'r ansicrwydd yn newid yr ydym ei ragweld yn y dyfodol."

Bu'r Athro Glasser yn gweithio ar Antarctica er 2004. Hon fydd ei drydedd daith i'r cyfandir rhewllyd.

Ei ymweliad diweddaraf oedd yn 2011 pan dreuliodd bron i ddau fis yn gweithio yn yr ardal o amgylch Ynys James Ross.

Yn gynnar yn 2016 cafodd cyfraniad yr Athro Glasser i wyddoniaeth begynol ei gydnabod gan Bwyllgor Enwau Lleoedd Antarctica a enwodd rewlif ar James Ross Island ar ei ôl – Rhewlif Glasser.

Yn ogystal ag Antarctica, mae’r Athro Glasser wedi bod yn ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar rewlifoedd yn Ne America ac amcangyfrif eu cyfraniad i gynnydd yn lefel byd-eang y môr.

Yn yr Himalaya mae wedi bod yn mesur faint mae rhewlifoedd wedi crebachu a sut y bydd hyn yn effeithio ar gyflenwad dŵr y rhanbarth yn y dyfodol.

Mae taith ddiweddaraf yr Athro Glasser i Antarctica yn rhan o brosiect ymchwil sy’n cael ei arwain o Sweden; 'MAGIC-DML' - Mapping/Measuring/Modelling Antarctic Geomorphology and Ice Change in Dronning Maud Land.

Gellir dilyn hynt yr Athro Glasser a thaith MAGIC-DML i Antarctica ar-lein: http://polarforskningsportalen.se/antarktis/expeditioner/magic-dml

Ceir rhagor o wybodaeth hefyd ar-lein yn http://www.magicdml.com/, drwy twitter @MAGICDML, ac ar Facebook https://www.facebook.com/MagicDML.

 

Rhannu |