Mwy o Newyddion
Cyhoeddi cast Macbeth
Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi cast cynhyrchiad uchelgeisiol a chyffrous nesaf y cwmni, sef Macbeth.
Bydd y cwmni’n cyflwyno’r ddrama, sy’n gyfieithiad newydd gan y diweddar Athro Gwyn Thomas, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, yng Nghastell Caerffili ym mis Chwefror.
Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw i ganolfannau ledled Cymru, fel rhan o fenter newydd Theatr Gen Byw.
Mae’r cynhyrchiad yn ddigwyddiad allweddol wrth i Cadw ddathlu Blwyddyn y Chwedlau yn 2017.
Yn ymuno â Richard Lynch (Macbeth) a Ffion Dafis (yr Arglwyddes Macbeth), bydd Gareth John Bale, Sion Eifion, Owain Gwynn, Phylip Harries, Gwenllian Higginson, Aled Pugh, Martin Thomas, Llion Williams a Tomos Wyn.
Bydd yr actorion proffesiynol hyn yn rhannu’r llwyfan gyda chast cymunedol i ddod â thrasiedi fawr Shakespeare yn fyw.
Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad. Ruth Hall yw Cynllunydd y Gwisgoedd a’r Set, Joe Fletcher yw’r Cynllunydd Goleuo, gyda Dyfan Jones yn Gynllunydd Sain. Bydd Aled Pedrick yn ymuno â’r tîm fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol.
Am y tro cyntaf erioed, bydd modd i gynulleidfaoedd ledled Cymru fwynhau’r cynhyrchiad a’r lleoliad arbennig hwn, wrth i’r cwmni ddarlledu’n fyw i ganolfannau ar draws Cymru, gan gynnwys Chapter, Pontio, Galeri Caernarfon, Theatr Colwyn, Theatr y Torch (Aberdaugleddau), Glan yr Afon (Casnewydd), Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Neuadd Les Ystradgynlais, Neuadd Dwyfor (Pwllheli), Canolfan Celfyddydau Taliesin (Abertawe) a Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug) nos Fawrth 14 Chwefror.
Mae’r darllediad byw yn rhan o Theatr Gen Byw – menter beilot newydd, gyffrous, a fydd yn ceisio sicrhau bod gwaith y cwmni a gyflwynir mewn lleoliadau arbennig yn cyrraedd cynulleidfaoedd eang.
Yn ogystal, ceir ail-ddangosiadau mewn nifer o’r canolfannau hyn, ac ail-ddangosiad mewn dwy ganolfan ychwanegol, sef Theatr Mwldan, Aberteifi a Theatr Ardudwy, Harlech.
Ceir gwybodaeth bellach am yr ail-ddarllediadau hyn (pob un ohonynt yn cynnwys is-deitlau Saesneg) ar wefan y canolfannau unigol ac ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru.
Bu Gwyn Thomas, a fu farw yn 2016, yn bennaeth ar yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac yn Fardd Cenedlaethol Cymru 2006–2008. Roedd yn awdur toreithiog, ac ymysg ei gyfraniadau amhrisiadwy i fywyd diwylliannol Cymru mae ei gasgliad o gyfrolau barddoniaeth, dramâu a llyfrau ysgolheigaidd, ynghyd â’i gyfieithiadau i’r Saesneg o’r Mabinogi.
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Macbeth am y cynhyrchiad: "Mae’n bleser gennym gyhoeddi cast llawn Macbeth heddiw.
"Rydw i wrth fy modd ein bod wedi ymgynnull criw o actorion mor dalentog, ac mae’n bleser unwaith eto i fod yn gweithio hefyd gyda chast cymunedol sy’n lleol i ardal y perfformiadau, fel y gwnaethom ni gyda’n cynhyrchiad o Chwalfa yn Pontio, Chwefror 2016.
"Mae’r tîm creadigol yn un hynod brofiadol, a dwi’n edrych ymlaen rŵan, ar ôl cyfnod helaeth o baratoi, at ddechrau’r ymarferion a gweld y cyfan yn dod at ei gilydd."