Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ionawr 2017

Lansio Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2017

Lansir cystadleuaeth Dysgwyr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn Ysgol Galan Cymraeg i Oedolion y Gogledd Orllewin, Prifysgol Bangor, ddydd Iau 5 Ionawr, gyda chyfle i ddysgwyr o bob lefel glywed mwy am yr Eisteddfod a chyfleoedd ar gyfer dysgwyr.

Mae Dysgwr y Flwyddyn yn un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod, ac yn gyfle i Gymru ddathlu cyfraniad ac ymroddiad y rheiny sy’n dysgu Cymraeg i’r iaith a’n cymunedau. 

Mae annog pobl i fynd ati i ddysgu a defnyddio’u Cymraeg yn rhan greiddiol o neges yr Eisteddfod Genedlaethol wrth ymweld ag unrhyw ardal, ac mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle i ddathlu llwyddiant ac ysbrydoli eraill i fynd ati i ymgeisio yn y dyfodol.

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu Cymraeg yn eithaf rhugl.  Gall unigolyn ymgeisio’i hun, neu gall teulu, ffrind, cydymaith - unrhyw un - fynd ati i enwebu rhywun sydd wedi gwneud eu gorau gyda’r Gymraeg.

Mae llawer o bobl yn mynd ati i ddysgu Cymraeg er mwyn ei siarad gyda ffrindiau a theulu. 

Mae eraill yn dysgu’r iaith er mwyn ei siarad yn y gwaith, a nifer yn awyddus i’w defnyddio yn y gymuned leol. 

Ac mae rhai pobl yn dysgu Cymraeg gan eu bod yn chwilio am her newydd.

Beth bynnag yw’r rheswm dros ddysgu Cymraeg, gellir mynd ati i gystadlu neu drefnu enwebiad ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Mae digon o amser ar ôl tan y dyddiad cau, 31 Mawrth, ond mae’r cyfnod hwn yn adeg berffaith i ddechrau meddwl, trafod a chasglu rhywfaint o wybodaeth.

Gellir lawrlwytho’r ffurflen gais o’r llyfryn Beth Amdani, sydd ar gael ar dudalen Maes D, canolfan dysgu Cymraeg ar Faes yr Eisteddfod, ar-lein, www.eisteddfod.cymru/mon-2017/maes-d. 

Ceir gwybodaeth am nifer fawr o gystadlaethau eraill i ddysgwyr yn y llyfryn Beth Amdani hefyd.

Mae modd hefyd cofrestru i gystadlu yn y cystadlaethau llwyfan ar gyfer dysgwyr ar-lein.

Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn derbyn tlws arbennig, yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £300 (Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor), a bydd y tri arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlysau, sydd hefyd yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £100 yr un (Teulu’r Wern, Talwrn).

Bydd y rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.  Bydd yr enillydd hefyd yn cael ei g/wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.

Bydd cyfle hefyd i glywed am holl waith yr Eisteddfod gyda dysgwyr yn yr Ysgol Galan, ynghyd â dysgu sut i fynd ati i wirfoddoli a bod yn rhan o’r paratoadau wrth i wythnos yr Eisteddfod agosáu.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ger Bodedern o 4-12  Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, http://www.eisteddfod.cymru.  Cynhelir seremoni Dysgwr y Flwyddyn yn Neuadd Tre Ysgawen, Môn, nos Fercher 9 Awst, a chyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.

Rhannu |