Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Ionawr 2017

Penodi Gerwyn Owen yn Chef de Mission i dîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad

Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi mai Gerwyn Owen fydd y Chef de Mission i Dîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas eleni.

Bydd Gerwyn yn cyflawni'r rôl wirfoddol yma yn ogystal â'i waith llawn amser fel Rheolwr Academi gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ym Mhlas Menai, ger Caernarfon. Mae ganddo 14 blynedd o brofiad o weithio ym maes chwaraeon a datblygu athletwyr yng Nghymru.  

Bydd 2017 yn flwyddyn brysur i Gerwyn gan ei fod hefyd wedi ei benodi'n aelod o'r uwch dîm rheoli ar gyfer y prif gemau yn Awstralia yn 2018. Fel Dirprwy Chef de Mission a Rheolwr Tîm Cyffredinol i Dîm Cymru yn Ngemau'r Gymanwlad 2018, mae llawer o waith i'w wneud er mwyn paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nid dyma'r tro cyntaf i Gerwyn gymryd rhan yng Ngemau'r Gymanwlad - fel Rheolwr Para Chwaraeon gyda Thîm Cymru bu'n rhan o Gemau Melbourne yn 2006, Delhi yn 2010 ac yn fwyaf diweddar yn Glasgow yn 2014.

Bydd Gerwyn yn awr yn gweithio'n agos gyda'r Athro Nicola Phillips, Chef de Mission Cymru ar gyfer Gemau 2018 er mwyn sicrhau bod ethos a gwerthoedd Tîm Cymru yn cael eu hadlewyrchu ar lefel ieuenctid ac oedolion a hefyd bod athletwyr yn cael yr un gefnogaeth a phrofiad ar y ddau lwyfan.

Meddai Gerwyn, sy'n byw yn y Groeslon ger Caernarfon gyda'i wraig Katherine a'u mab Tomos Glyn: "Mae'n fraint o'r mwyaf cael fy mhenodi yn Chef de Mission i Dîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2017.

"Dwi'n hynod ddiolchgar i Gemau'r Gymanwlad Cymru am y cyfle hwn, ac i fy nghyflogwyr, Chwaraeon Anabledd Cymru, am fy nghefnogi i gyflawni'r rôl dros y misoedd nesaf.

"Fel Chef de Mission, mi fydda i'n gyfrifol am arwain Tîm Cymru yn y Bahamas a chreu'r amgylchedd gorau bosibl i'r athletwyr trwy gydol y Gemau.

"Dyma fydd y digwyddiad rhyngwladol aml-chwaraeon i nifer o'r bobl ifanc a fydd yn cystadlu, a fy nod i fydd gwneud yn sicr eu bod nhw'n dysgu ac yn elwa llawer o'r profiad. Mi fydd y profiad dwi wedi ei feithrin dros y blynyddoedd yn fy helpu i gyflawni'r her yma."

Ychwanegodd: "Mae'r cyfle i gynrychioli Cymru yn destun balchder aruthrol i unrhyw athletwr. Dwi'n edrych ymlaen at weld y balchder hwnnw yn ein cenedl, diwylliant a iaith yn cael ei fynegi gan ein pobl ifanc yn ystod y Gemau Ieuenctid eleni."

Wrth groesawu Gerwyn i Dîm Cymru, meddai Prif Weithredwr Gemau'r Gymanwlad Cymru Chris Jenkins: "Rydyn ni'n falch iawn o benodi Gerwyn i arwain Tîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad 2017. Trwy ei waith gyda Chwaraeon Anabledd Cymru a'i rôl yng Ngemau'r Gymanwlad mewn blynyddoedd a fu, mae ganddo brofiad gwych o weithio gydag athletwyr.

"Mae Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn bwysig iawn o ran meithrin talent ifanc, ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc gystadlu dros Gymru ar y llwyfan rhyngwladol.

"Mi berfformiodd y Tîm yn rhagorol yn y Gemau Ieuenctid yn Samoa yn 2015 gan ddod â 9 medal yn ôl i Gymru. Gyda Gerwyn wrth y llyw, does dim amheuaeth y bydd Tîm 2017 yn mwynhau yr un math o lwyddiant.

"Ar ran Gemau'r Gymanwlad Cymru, croeso mawr iddo i'r Tîm ac edrychwn ymlaen at gydweithio gydag ef."

Llun: Gerwyn Owen

Rhannu |