Mwy o Newyddion
Agor siop Gymraeg yng nghanolfan Saith Seren
Er bod Siop y Siswrn yn Wrecsam wedi cau mae gobaith am siop fisol yn y dref yn ei lle.
Mae’r ganolfan Gymraeg Saith Seren yn bwriadu agor siop newydd i werthu nwyddau Cymraeg a Chymreig y mis hwn.
Maent am gydweithio â Siop Cwlwm o Groesoswallt i gynnal gwasanaeth ar ddyddiau Gwener yn Saith Seren.
Dywedodd Cadeirydd y fenter gydweithredol yn Wrecsam, Marc Jones, y bydd y siop yn agor i ddechrau ddydd Gwener, 13 Ionawr, yna ar 17 Chwefror i werthu amrywiaeth o nwyddau yn cynnwys llyfrau, cardiau cyfarch ac anrhegion.
“Gawn ni weld sut mae pethau’n mynd o ran ymateb ond ein gobaith yw ehangu’r gwasanaeth gyda’r bwriad y bydd Saith Seren yn medru cynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg ac unrhyw un sy’n chwilio am anrheg unigryw o Gymru,” meddai.
Caeodd stondin Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobol yn Wrecsam y mis diwethaf a chanolbwyntio ar eu prif siop yn yr Wyddgrug yw’r bwriad yn awr. Buont yn Wrecsam am 20 mlynedd.