Mwy o Newyddion
Rhaid i’r DG roi’r gorau i ymrestru plant yn y lluoedd arfog, medd Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth y DG i adolygu’r isafswm oedran pryd y gall unigolyn ymuno â’r lluoedd arfog yng ngoleuni canfyddiadau fod plant sy’n cael eu recriwtio mewn perygl o anhwylder straen wedi trawma, camddefnyddio alcohol, a hunanladdiad.
Mae adroddiad gan elusen iechyd, Medact, wedi gweld fod plant sy’n cael eu recriwtio yn fwy agored i anhwylder straen wedi trawma (PTSD), camddefnyddio alcohol, hunan-niweidio, hunanladdiad a marwolaeth ac anafiadau yn ystod gyrfa yn y lluoedd arfog o’u cymharu naill ai â chyfoedion o sifiliaid neu oedolion gafodd eu recriwtio.
Daw’r adroddiad i’r casgliad nad yw’r arferion presennol o recriwtio unigolion dan oed i luoedd arfog y DG yn cwrdd â’r meini prawf am gydsyniad llawn a gwybodus, yn rhannol oherwydd fod datblygiad gwybyddol a seicogymdeithasol glaslanciau yn eu gwneud yn arbennig o agored i farchnata gan recriwtwyr milwrol.
Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi cyflwyno cynnig cynnar yn y dydd (CCYD) yn Nhŷ’r Cyffredin yn galw am adolygu’r isafswm oedran ar gyfer ymrestru, ac yn amlygu’r ffaith fod polisiau recriwtio plant y DG wedi eu condemnio dro ar ôl tro gan y Cenhedloedd Unedig ac arbenigwyr cenedlaethol ar hawliau plant
Llofnodwyd CCYD Plaid Cymru gan ASau Llafur a’r SNP.
Meddai Liz Saville Roberts: “Mae’r DG wedi ei chondemnio dro ar ôl tro nid yn unig gan arbenigwyr plant cenedlaethol ond hefyd yn rhyngwladol, gan y Cenhedloedd Unedig, am ddenu plant i’r lluoedd arfog.
“Mae’r adroddiad gan Medact yn dweud yn glir fod plant sy’n cael eu recriwtio yn fwy agored na chyfoedion sifilaidd demograffaidd debyg neu oedolion gafodd eu recriwtio i ddioddef anhwylder straen wedi trawma, camddefnyddio alcohol a hyd yn oed gyflawni hunanladdiad.
"Dylai fod yn fater o frys yn awr i’r DG adolygu ei pholisi ar recriwtio plant.
“Mae gwasanaethau iechyd meddwl eisoes dan lawer gormod o bwysau gyda gwasanaethau i blant yn ddiffygiol iawn.
"Mae’n rhaid i 44% o blant sy’n aros i weld seiciatrydd arbenigol yng Nghymru aros am fwy na phedwar mis am eu hapwyntiad cyntaf.
“Fel gwleidyddion, mae gennym ddyletswydd o ofal i’r rhai yr ydym yn gofyn iddynt wasanaethu ar ein rhan.
"Y DG yw’r unig aelod o Gyngor Diogelwch y CU, yr unig aelod o NATO a’r unig aelod o’r Undeb Ewropeaidd sy’n recriwtio plant.
"Er mawr gywilydd i San Steffan, nid yw hyd yn oed wledydd fel Zimbabwe, Iran a Gogledd Corea yn recriwtio plant.
“Rhaid i lywodraeth y DG roi terfyn ar ddenu plant a dwyn y DG i’r byd modern.”